Cyfieithu'r Beibl: gwasanaeth arbennig
- Cyhoeddwyd

Ganwyd Humphrey Lhuyd yn Ninbych yn 1527
Mae gwasanaeth arbennig wedi bod er cof am y dyn lywiodd ddeddf arweiniodd at gyfieithu'r Beibl.
Hon oedd y ddeddf Seneddol gyntaf erioed i wneud y Gymraeg yn orfodol mewn unrhyw faes.
Roedd y gwasanaeth yn Eglwyswen Dinbych lle y claddwyd Humphrey Lhuyd.
Y Faeres, y Cynghorydd Gaynor Morgan Rees, osododd dorch ar ei gofeb.
Roedd Deddf Cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg yn 1563.
Ym mhob eglwys
Ac roedd y ddeddf yn gorchymyn esgobion Cymru ac Esgob Henffordd i sicrhau cyfieithiad o'r Beibl a'r Llyfr Gweddi Gyffredin i'r iaith Gymraeg.
Yn ôl y ddeddf, roedd rhaid sicrhau bod Beibl Cymraeg ym mhob eglwys yn y bröydd Cymraeg cyn Gŵyl Ddewi 1566.
O'r dydd hwnnw ymlaen roedd yr holl wasanaeth i'w gynnal yn yr iaith Gymraeg.
Y gred yw mai'r Aelod Seneddol lywiodd y mesur drwy Dŷ'r Cyffredin oedd Mr Lhuyd, Aelod Seneddol Dinbych, ei dref enedigol.
Hwylusodd y ddeddf waith cyfieithwyr fel William Salesbury, Richard Davies ac, yn ddiweddarach, William Morgan.
Goroesi
Yn ôl haneswyr, y Beibl Cymraeg yn fwy na dim arall alluogodd y Gymraeg i oroesi fel iaith fyw hyd heddiw.

Hwylusodd y ddeddf waith cyfieithwyr fel William Salesbury, Richard Davies a William Morgan.
Dywedodd y Dr E Wyn James o Brifysgol Caerdydd: "Roedd gorchymyn cyfieithu'r Beibl ei hunan yn bwysig a beth oedd bron â bod yn bwysicach oedd gorchymyn i'r Llyfr Gweddi a'r Beibl gael eu defnyddio'n gyson yn y rhannau o'r wlad lle oedd yr iaith yn iaith arferol.
"Roedd hyn yn golygu'r rhan fwya' o Gymru, wrth gwrs, ac yn golygu talpiau o'r gororau.
"Felly yn sydyn iawn mae'r Gymraeg nid yn unig yn cael ei goddef ond yn cael ei gorchymyn i fod yn iaith crefydd ymhob man lle oedd y Gymraeg yn cael ei defnyddio yn y gymuned."
Roedd ymwelwyr o Eglwys Dewi Sant, Caerdydd, hefyd yn y gwasanaeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2013
