10 mlynedd ers terfysg Wrecsam: newid wedi bod
- Cyhoeddwyd
Ddeng mlynedd yn dilyn terfysgoedd ar Stad Parc Caia yn ardal Wrecsam, mae elusen wnaeth roi lloches i Gwrdiaid o Irac yn ystod yr helynt yn dweud bod rhaid iddyn nhw gau oherwydd toriadau.
Ond yn ôl y Parchedig James Aylward mae nifer y ceiswyr lloches sy'n cyrraedd Wrecsam wedi bod yn lleihau beth bynnag.
Mr Aylward yw cadeirydd Grŵp Cefnogi Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches Wrecsam (GCW) hefyd, ac mae'n dweud bod gwersi wedi eu dysgu.
Y neges gan bobl a welodd dorf yn ymosod ar heddlu gwrth-derfysg yw bod newid er gwell wedi digwydd yn Wrecsam ers Mehefin 2003.

Y Parchedig James Aylward yw cadeirydd Grŵp Cefnogi Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches Wrecsam
Terfysg
Fe ddechreuodd yr helynt ddiwrnod ar ôl i drigolion lleol ymosod ar Gwrdiaid o Irac gan dorri ei benglog.
Y noson wedyn fe aeth grŵp o ryw 20 o Gwrdiaid i dafarn ar y stad, y Red Dragon, er mwyn herio'r rheini oedd wedi ymosod ar eu cydwladwr.
Arweiniodd hynny at sgarmes fawr.
Y noson wedyn roedd terfysg a cafodd heddlu eu galw mewn i ddelio gyda'r broblem eu pledu gyda cherrig a bomiau petrol.
Cafodd y rhai oedd yn gyfrifol am y trais ddedfrydau oedd yn gwneud cyfanswm o 80 mlynedd.
Ers hynny mae llawer o waith wedi ei wneud er mwyn adfer enw da Parc Caia yn enwedig drwy gyfrwng prosiectau sy'n ymwneud gyda hybu gwell dealltwriaeth rhwng gwahanol grwpiau ethnig.
Roedd llawer o Gwrdiaid wedi ffoi o'u cartrefi oedd ar y stad gan geisio lloches mewn neuadd eglwys oedd yn cael ei rhedeg gan y Parchedig James Aylward.
"Mae pethau wedi newid llawer ers hynny," meddai.
"Roedd pryderon ar y pryd y gallai problemau tebyg godi ond dechreuodd pethau wella."
Dywedodd bod Cyngor Wrecsam wedi newid eu polisi tai erbyn hyn.
Yn ôl y parchedig mae'r heddlu, y cyngor yr GCW a grwpiau cydraddoldeb eraill wedi gwneud gwaith da yn ceisio gwella'r berthynas rhwng ceiswyr lloches a ffoaduriaid a thrigolion lleol.
"Mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu croesawu," erbyn hyn yn ôl y Parchedig Alyward.
Bydd arian y GCW yn dod i ben fis Medi ac mae disgwyl y bydd yr elusen yn cau ei swyddfa yng nghanol y dref.

Mae Parc Caia yn le gwahanol o'i gymharu â 2003 yn ôl Dorothy Mitchell
'Newid'
Mae Dorothy Mitchell yn byw ym Mharc Caia ac mae hi'n dweud bod bywyd cymunedol wedi gwella yno ers y terfysg oherwydd cefnogaeth gan bobl sydd o wahanol gefndiroedd.
"Rhaid i mi gyfaddef bod y digwyddiad wedi helpu i newid pethau," meddai.
"Mae pobl o bedwar ban y byd yn byw yn Caia.
"Rwy'n credu bod hyn yn wych oherwydd fe ddylem ni fod yn gymdeithas amrywiol beth bynnag."