Dynladdiad Bala: 10 mlynedd o garchar
- Cyhoeddwyd

Roedd Branislav Gula'n 'gerddor talentog'
Mae Julius Hecko wedi ei garcharu am 10 mlynedd yn sgil marwolaeth Branislav Gula yn Y Bala.
Yn Llys y Goron Caernarfon roedd yn euog o ddynladdiad wedi i gorff gael ei ddarganfod fis Tachwedd.
Roedd y dyn 23 oed yn ddieuog o lofruddiaeth ac yn ddiemosiwn pan gyhoeddwyd y dyfarniad dydd Mercher.
Bu farw Mr Gula, 42 oed, yn ei fflat yn Heol y Plase wedi'r hyn gafodd ei ddisgrifio yn "frwydr dreisgar".
Dywedodd yr erlyniad fod Mr Gula wedi marw oherwydd anafiadau difrifol i'w ben.
Canabis
Roedd y ddau o Slofacia'n wreiddiol.
Clywodd y llys fod y diffynnydd wedi bod yn yfed a smocio canabis am oriau cyn yr ymosodiad.
Cafodd Richard Vanstone, 44 oed o Flaenau Ffestiniog, 18 mis o garchar am roi cymorth i droseddwr.

Cafwyd hyd i gorff Branislav Gula mewn fflat yn y Bala ym mis Tachwedd 2012
Cafwyd Jodie Jackson, 18 oed o Gorwen, yn euog o'r un drosedd a bydd am wyth mis mewn sefydliad troseddwyr ifanc.
Roedd Mark Roberts, 37 oed o Ddolgellau, yn euog o wyrdroi cwrs cyfiawnder ac mae wedi ei garcharu am flwyddyn.
Teyrnged
Mewn datganiad dywedodd Milan a Peter ar ran teulu Branislav Gula: "Mae hon wedi bod yn bennod drist yn ein bywydau ...
"Mae wedi bod yn anodd dod i delerau gyda fo ond ni fyddwn byth yn anghofio'r atgofion melys.
"Cafodd ei eni yn 1970 yn Stropkov, Slofacia. Roedd Milan, ei dad, a'i ddiweddar fam Marta yn ei garu'n fawr.
"Roedd yn amlwg o oedran ifanc fod Braño [llysenw'r teulu] yn gerddor talentog.
'14 o ieithoedd'
"Roedd yn chwarae'r gitâr, y piano, y drymiau a'r harmonica. Roedd yn ddiddanwr gwych ac yn cyfansoddi ei gerddoriaeth ei hun.
"Bydd y gerddoriaeth am byth yn ein hatgoffa o'i ddoniau.
"Roedd yn siarad 14 o ieithoedd gwahanol, gan gynnwys Hebraeg, a'i freuddwyd oedd ymweld â nifer o wledydd a phrofi gwahanol ddiwylliannau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2013

- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2013

- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2012

- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2012
