Lladrad arfog: Heddlu'n cyhoeddi llun
- Cyhoeddwyd

Cafodd dyn ei weld ar gamera cylch cyfyng yn y siop bwci ym Mhort Talbot
Mae heddlu sy'n ymchwilio i ladrad arfog mewn siop betio ym Mhort Talbot wedi cyhoeddi llun o ddyn y maen nhw'n amau o'r drosedd.
Cafodd yr heddlu eu galw i siop Ladbrokes ar Heol Margam yn y dref am 9:55pm nos Fawrth, Mehefin 25.
Roedd dyn wedi mynd i mewn i'r siop gyda chyllell a bygwth aelod benywaidd o staff cyn iddi roi swm o arian iddo.
Mae plismyn yn credu bod y dyn wedyn wedi cerdded ar hyd Heol Margam i gyfeiriad tafarn y Twelve Knights cyn troi i lawr lôn fach yn arwain i gefn siopau.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Mark Kavanagh: "Rwy'n apelio ar unrhyw un oedd allan yng nghyffiniau'r siop bwcis ar yr adeg dan sylw i edrych ar y llun, ac yn enwedig y dillad, ac os gwelon nhw rywun yn gwisgo dillad tebyg i gysylltu â ni.
"Hoffwn glywed hefyd gan unrhyw un allai fod â gwybodaeth am y lladrad."
Dylai pobl ffonio'r heddlu yng Nghastell-nedd ar 01639 640204 neu 101 ac fe all pobl hefyd ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.