Llosgiadau i ddwy fenyw wedi damwain goginio mewn gwersyll

  • Cyhoeddwyd

Mae dwy fenyw wedi mynd i'r ysbyty gyda llosgiadau i'w hwyneb yn dilyn digwyddiad gydag offer coginio mewn gwersyll yng Nghaernarfon.

Cafodd dynion tan eu galw i wersyll Nant Gwynant wedi chwe nos Iau wedi i ddau silindr nwy oedd yn cael eu defnyddio i goginio ffrwydro.

Mae'r Gwasanaeth Tân yn rhybuddio carafanwyr a gwersyllwyr i fod yn ofalus yn dilyn y digwyddiad.

Dywedodd Gareth Griffiths o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Mae carafannau a phabelli o bosib yn fwy peryglus na'n cartrefi am fod unrhyw risg yn fwy amlwg mewn lle bach.

Felly mae'n bwysig i fod yn wyliadwrus a pheidio anghofio cyngor sylfaenol ar gyfer tân pan ar wyliau."