Abertawe'n arwyddo Sbaenwr arall
- Cyhoeddwyd

Treuliodd Jordi Amat y tymor diwethaf ar fenthyg gyda Rayo Vallecano
Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi arwyddo chwaraewr arall o Sbaen.
Mae'r amddiffynnwr Jordi Amat wedi ymuno o glwb Espanyol ar gytundeb pedair blynedd am £2.5 miliwn.
Yn ystod y tymor diwethaf roedd Amat ar fenthyg gyda chlwb Rayo Vallecano. Mae'r chwaraewr 21 oed wedi cynrychioli Sbaen ar bob lefel o dan-16 i dan-21 er nad yw wedi ennill ei gap llawn eto.
Mae e hefyd wedi chwarae ddwywaith i dîm Catalunya.
Amat yw'r ail Sbaenwr i ddod i'r Liberty, gan ddilyn Jose Canas ddaeth i Abertawe o Real Betis.
Yn y cyfamser mae dryswch am drosglwyddiad Wilfried Bony o Vitesse Arnhem.
Roedd adroddiadau ddydd Iau yn dweud bod Bony wedi cytuno i ymuno ag Abertawe am £10m, ond mae clwb Vitesse Arnhem wedi cyhoeddi ar eu gwefan bod nifer o glybiau wedi mynegi diddordeb yn yr ymosodwr 24 oed o Arfordir Ifori, gan gynnwys Abertawe, ond nad oedd wedi cadarnhau trosglwyddiad i'r un ohonyn nhw.