Canolfan alwadau'n noddi'r Gweilch
- Cyhoeddwyd

Joe Bearman a Tom Isaacs o garfan y Gweilch gyda Neville Wilshire o Save Britain Money
Mae tîm rygbi'r Gweilch wedi cyhoeddi y byddan nhw'n cael eu noddi gan gwmni Save Britain Money y tymor nesaf.
Daeth y cwmni i amlygrwydd wrth i'r ganolfan alwadau ymddangos yn y gyfres deledu The Call Centre ar BBC3.
O dan dermau'r cytundeb bydd logo'r busnes yn ymddangos ar grysau'r Gweilch y tymor nesaf, ac fe fydd y busnes hefyd yn rhan o raglen ysgolion y rhanbarth.
Dywedodd prif weithredwr Save Britain Money a seren y gyfres, Neville Wilshire:
"Rydym yn falch iawn o ddod yn rhan o deulu'r Gweilch gan ein bod yn rhannu'r nod o ddarparu perfformiad o safon byd eang gyda thalent leol.
"Rydym yn arbennig o falch o fod yn rhan o'r rhaglen ysgolion. Mae'n gynllun gwych i gynorthwyo plant yr ardal i ddatblygu sgiliau personol ac academaidd pwysig."
Yn ôl Yarnie Guthrie, rheolwr masnachol y Gweilch: "Rydym wrth ein bodd yn sefydlu partneriaeth gydag un o fusnesau enwoca'r ardal, ac un sy'n un o brif gyflogwyr yr ardal.
"Gallai'r bartneriaeth fasnachol yma fod o fudd i'r ddau fusnes yn y tymor hir. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Save Britain Money wrth i ni sicrhau ein lle yn y gymuned leol."