Cyhuddo dyn o lofruddio wedi i ddyn gael ei ladd yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu'n ymchwilio o hyd
Mae dyn 45 oed wedi ei gyhuddo o lofruddio wedi i gorff dyn 34 oed gael ei ddarganfod mewn tafarn.
Bydd Francisco John Prevete o Wrecsam gerbron Ynadon Yr Wyddgrug fore Sadwrn.
Y dyn gafodd ei ladd oedd Craig Maddocks o ardal Llai.
Daethpwyd o hyd i gorff Mr Maddocks yn nhafarn y Cambrian Vaults ychydig wedi hanner nos nos Fawrth.
Cafodd archwiliad post-mortem ei gynnal ddydd Mercher.
Teyrngedau
Mae teulu Craig Maddocks wedi rhoi teyrnged iddo.
Mewn datganiad dywedodd Edna a David: "Roedd yn belydr o oleuni wrth gerdded i mewn i'r ystafell ac yn ganolbwynt unrhyw sefyllfa.
"Hefyd roedd yn baffiwr o'r safon uchaf ond fyddai fyth yn ymladd heb y menig.
"Roedd wastad yn anelu at lefel ffitrwydd - roedd yn bêl-droediwr a dyn poblogaidd."
Dywedodd ei frawd, Daniel: "Mi wna i dy fethu di, frawd, chdi oedd fy efaill a fi oedd dy gysgod - dwi'n dy garu di lawer lawer iawn. Dwi'n dy fethu di, gyfaill."
Ychwanegodd ei chwaer, Lisa: "I fy mrawd mawr - rydan ni oll yn dy fethu di gymaint, chei di fyth dy anghofio ac fe wna i fy ngorau i edrych ar ôl Mam, Dad a dy blant."
Dywedodd Heddlu'r Gogledd y dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio 101 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.