Cymru 7-bob-ochr ar frig y grŵp
- Cyhoeddwyd

Rhys Shellard yn pasio wrth gael ei daclo yn erbyn Fiji
Mae'r deiliaid Cymru wedi cyrraedd rownd wyth olaf Pencampwriaeth Saith-bob-ochr y Byd ym Moscow ar ôl gorffen ar frig Grŵp E.
Nos Wener fe gurodd Cymru Wrwgwai 33-5 yn y gêm agoriadol.
Yna ddydd Sadwrn, fe guron nhw Tonga 28-19 cyn ennill eu gêm yn erbyn Fiji mewn gornest agos o 19-14.
Roedd Fiji ar y blaen 7-5 ar yr egwyl diolch i gais Levani Botia.
Ond yna daeth ceisiau i Alex Webber a Lee Williams i ychwanegu at yr un gan Gareth Davies yn yr hanner cyntaf, ac roedd hynny'n ddigon er gwaetha' Fiji'n grwydro'n ôl yn hwyr.
Rhys Jones, Davies, Webber a Warren gafodd y ceisiau yn erbyn Tonga.