Geraint Thomas wedi ei anafu yn y Tour
- Cyhoeddwyd

Roedd Thomas yn un o ddwsinau o feicwyr i gael eu dal yn y gwrthdrawiad
Mae'r seiclwr Geraint Thomas wedi cael anaf yng nghymal cynta'r Tour De France ddydd Sadwrn.
Bu golygfeydd rhyfedd pan dorrodd bws i lawr yn agos i linell derfyn ar ynys Corsica, a bu'n rhaid symud y llinell derfyn 3km yn ôl.
O ganlyniad fe ddechreuodd y cystadleuwyr wibio at y llinell yn gynt na'r disgwyl gan arwain at wrthdrawiad gyda nifer o feicwyr yn rhan ohono.
Dywedodd pennaeth Team Sky Dave Brailsford bod Thomas wedi gorfod mynd am archwiliad pelydr-X yn yr ysbyty.
Enillwyd y cymal gan Marcel Kittel o'r Almaen gydag Alexander Kristoff o Norwy yn ail a Danny van Poppel o'r Iseldiroedd yn drydydd.
Y Prydeiniwr cyntaf i orffen oedd David Millar o dîm Garmin oedd yn bedwerydd.
Croesodd Thomas y llinell yn safle 183, ond ni fydd hynny'n effeithio ar ei obeithion yng ngweddill y ras.