Ymweliad brenhinol â chartre' bardd
- Cyhoeddwyd

Y Tywysog Charles yn cwrdd â phlant yn Llanymddyfri
Mae'r Tywysog Charles a Duges Cernyw wedi dechrau eu taith haf i Gymru gydag ymweliad â chyn gartref Dylan Thomas yn Nhalacharn, Sir Gâr.
Y tywysog yw noddwr Gŵyl 100 Dylan Thomas sy'n dathlu can mlynedd ers geni'r bardd yn 1914.
Bu'r cwpwl yn cwrdd â staff yr amgueddfa yn y Tŷ Cwch yn Nhalacharn.
Yn y dre' fe ysgrifennodd Dylan Thomas ei ddrama enwog Dan y Wenallt, ac roedd yn byw yno gyda'i wraig Caitlin a'u tri o blant ym mlynyddoedd olaf ei fywyd o 1949 tan 1953.
Aeth Charles a Camilla ar daith o gwmpas yr adeilad, sydd bellach yn ganolfan dreftadaeth, siop lyfrau a chaffi, gydag wyres Dylan Thomas, Hannah Elis.

Yn y Tŷ Cwch yn Nhalacharn yr ysgrifennodd Dylan Thomas y ddrama Dan y Wenallt
Mae'r ymweliad yn rhan o ddiwrnod cyntaf prysur i'r ddau sy'n treulio wythnos yng Nghymru bob mis Gorffennaf.
Digwyddiad cyntaf yr ymweliad ddydd Llun oedd cwrdd ag aelodau Partneriaeth Datblygu Llanymddyfri a chynrychiolwyr y cyngor lleol yng nghanolfan waith wledig gyntaf Cymru - Canolfan Waith Llanymddyfri.
Yn ddiweddarach mae'r tywysog yn cyflwyno medalau i staff Heddlu Dyfed Powys ym mhencadlys y llu yn Llangynnwr.
Gwasg
Yn y cyfamser, mae Duges Cernyw yn ymweld â gwasg annibynnol fwyaf Cymru, Gwasg Gomer, yn Llandysul, Ceredigion.
Yng nghartref y ddau yn Llwynywermod bydd te parti i blant a'u teuluoedd o'r elusen Dreams and Wishes, elusen sy'n cefnogi pobl ifanc sy'n ddifrifol wael.
Bydd y Tywysog a'r Dduges yn y gogledd ddydd Mawrth cyn troi'n ôl i'r de ddydd Iau i fynd i stiwdios drama newydd BBC Cymru ym Mhorth y Rhath.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mai 2013

- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2013

- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2012