Dyn wedi ei arestio wedi marwolaeth dynes o Gymru
- Cyhoeddwyd

Cafodd yr heddlu eu galw i faes carafannau ar yr A387 ddydd Gwener
Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ar ôl i gorff dynes o Gymru gael ei ddarganfod mewn car yng Nghernyw.
Cafodd plismyn eu galw i safle ger maes carafannau rhwng Polperro a Looe, ar yr A387, am 5:30pm ddydd Gwener, ble y daethon nhw o hyd i gorff dynes 28 oed mewn car Ford Mondeo.
Maent wedi cadarnhau ei bod hi'n hanu o ardal Cas-gwent, yn Sir Fynwy.
Dywed ditectifs "nad oedd eglurhad" dros y farwolaeth ar hyn o bryd a'u bod wedi dechrau ymchwiliad.
Yn ôl llefarydd ar ran Heddlu Dyfnaint a Chernyw, mae archwiliad post mortem wedi cael ei gynnal.
Ychwanegodd: "Mae'r heddlu'n aros am ganlyniadau profion fforensig i gadarnhau achos y farwolaeth."
Cafodd dyn o Bromsgrove, Sir Gaerwrangon, ei arestio a'i holi yng ngorsaf heddlu Newquay.
Mae bellach wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod yr heddlu'n parhau â'u hymchwiliadau.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101.