Ymchwilio i ladrad arfog
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n ymchwilio i ladrad arfog yng Nghaerdydd nos Sul.
Dywedodd yr heddlu fod dyn wedi bygwth staff Dominos Pizza, Pentwyn, â chyllell cyn dwyn arian parod o'r til.
"Yn ffodus, chafodd neb ei anafu," meddai'r Ditectif Sarjant Paula Hughes.
"Ond roedd yn brofiad ysgytwol i ddau aelod staff."