Gweinidog Cyfoeth Naturiol: Mesur amaeth yn 'fesur brys'
- Cyhoeddwyd

Mae Alun Davies yn dweud bod angen cyflwyno'r mesur cyn gynted â phosibl
Mae'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol Alun Davies wedi sicrhau caniatâd y Cynulliad i drin y Mesur Sector Amaethyddol fel mesur brys.
Fe wnaeth gydnabod nad hyn oedd y ffordd ddelfrydol i gyflwyno'r mesur ond dywedodd y byddai llawer mwy o gyfle i drafod y mater yn hwyrach.
Mae'r gwrthbleidiau i gyd wedi gwrthwynebu'r cynlluniau, gan ddweud nad oedd cyflwyno'r mesur heb gyfle i graffu arno'n llawn yn arferiad da.
Mae gan Lywodraeth Cymru fwyafrif yn y Cynulliad yn sgil ymddiswyddiad Ieuan Wyn Jones.
Diddymu
Mae'r mesur yn cael ei gyflwyno oherwydd penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddiddymu'r Bwrdd Cyflogau Amaeth.
Pwrpas y bwrdd oedd penderfynu isafswm cyflog a thelerau gweithio ffermwyr, yr hyn oedd yn amherthnasol erbyn hyn, yn ôl gweinidogion Prydain oherwydd bodolaeth isafswm cyflog.
Roedd Llywodraeth Cymru'n gwrthwynebu'r penderfyniad, gan ddadlau fod y bwrdd yn parhau i wneud gwaith pwysig.
Maen nhw wedi dadlau mai eu lle nhw yw penderfynu ar ddyfodol y mater yng Nghymru gan fod amaeth wedi ei ddatganoli.
Ond mae Llywodraeth y DU yn gwrthod hyn a dweud mai mater sy'n ymwneud â chyflogaeth yw hwn ac mai nhw felly sydd â'r gair olaf.
Mewn datganiad ysgrifenedig i Aelodau Cynulliad dywedodd y Llywydd Rosemary Butler y byddai'n rhoi cyfarwyddwyd iddyn nhw pan mae'r Mesur Sector Amaethyddol yn cael ei gyflwyno.
Opsiwn gorau
Dywedodd y gweinidog nad oedd digon o amser i ystyried ymhellach ac mai ymyrraeth ddeddfwriaethol fyddai'r opsiwn gorau.
"Yr hyn rydym yn ei wneud yma heddiw yw gofyn i'r Cynulliad ddarparu cyfle i ni roi ystyriaeth frys i'r ddeddfwriaeth yma er mwyn cadw'r drefn bresennol ac osgoi aflonyddwch - pwrpas hyn yw cadw'r sefyllfa bresennol."
Dywedodd yr Aelod Ceidwadol Antoinette Sandbach iddi dderbyn copi o'r mesur wythnos ddiwethaf a bod pob tudalen yn cyfeirio at Ebrill 2013 ac felly yn dangos i'r gweinidog wybod am hyn ers cryn amser.
Ychwanegodd mai dim ond ar gyfer "argyfwng dilys" y dylid "gweithredu ar frys" ac y dylai'r Cynulliad gael digon o amser i graffu ar y mesur.
Honnodd hi fod hyn yn digwydd nawr gan fod y Blaid Llafur yn "cymryd mantais ar y ffaith bod Aelod Ynys Môn yn gadael."
Dywedodd Simon Thomas fod Plaid Cymru'n cefnogi'r mesur.
"Ry'n ni eisiau sicrhau bod y mesur yma'n cael ei wireddu ond ry'n ni hefyd eisiau sicrhau ei fod yn cael ei graffu'n drylwyr gan bwyllgorau'r cynulliad," meddai Mr Thomas.
Ymateb y Democrat Rhyddfrydol William Powell oedd y dylai'r Blaid Lafur "gallio".
Dywedodd Mr Davies mai'r rheswm am gyflwyno'r cynnig oedd achos bod llywodraeth y DU wedi "tanseilio'r cyfansoddiad ar y mater yma".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2013

- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2013

- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2012