Y Llewod Cymreig yn cyrraedd adre
- Cyhoeddwyd

'Gats yn haeddu'r clod i gyd'
Mae'r Llewod Cymreig wedi cyrraedd nôl yng Nghymru. Cawsant eu croesawu i westy'r Vale ym Mro Morgannwg gan gôr o Ysgol Gynradd Gymraeg Castellau yn canu Calon Lân a Sosban Fach.
Dywedodd yr hyfforddwr cynorthwyol Rob Howley:
"Mae hi wedi bod yn daith anhygoel, aeth llawer o waith caled fewn iddi, ac mae'r pedwar diwrnod diwethaf wedi bod yn arbennig...
"Bydd y chwarewyr ddim yn anghofio'r awyrgylch weddill eu bywydau - maen nhw wedi creu hanes.
"Mae'n dangos pa mor anodd yw hi i ennill cyfres y Llewod, dyw e ddim wedi digwydd am 16 mlynedd ac ry' ni wedi cael cyfran uchel o chwarewyr Cymreig yn rhan o hynny, sy'n gneud e hyd yn oed yn well."
Wrth adlewyrchu ar y feirniadaeth a fu o'r tîm hyfforddi, a Warren Gatland yn enwedig, dywedodd Howley:
"Rydw i'n meddwl bod hynny'n rhan o'r swydd, roedd gyda ni ffydd yn y dewisiadau wnaethon ni, falle wnaethon ni ddim sylweddoli ar yr effaith y bydde yna ar draws y byd rygbi.
"Ond o ran ein dewisiadau, fe lynon ni wrth ein penderfyniadau o ran bod yn dechnegol a thactegol well yn y trydydd prawf. A diolch i'r drefn felly y bu.
"Ac mae Gats yn haeddu'r clod i gyd, oherwydd wedi gweithio gyda fe - ei stiwardiaeth, ei ddealltwriaeth, ei glyfrwch, ac mae dewis yn rhan enfawr o hynny."
Roedd y côr a groesawodd y chwarewyr yn cynnwys disgyblion sydd wedi cynrychioli Ysgol Gynradd Gymraeg y Castellau mewn nifer o gampau gwahanol.
Dywedodd arweinydd y côr a dirprwy bennaeth yr ysgol, Mr Gwyndaf Jones, fod y plant wedi mwynhau, a'u bod wedi cael tynnu eu llun gyda chapten y garfan Sam Warburton.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2013

- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2013

- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2013

- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2013
