Strategaeth 2020 i annog rhoi organau

  • Cyhoeddwyd
Llawdriniaeth
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru eisiau gweld cynnydd yn nifer yr organau sy'n cael eu rhoi

Mae Gweinidog Iechyd Cymru Mark Drakeford wedi croesawu strategaeth ar draws y DU i hybu rhoi organau i'w trawsblannu.

Cafodd y strategaeth, sy'n amlinellu cynlluniau hyd at 2020, ei gyhoeddi gan y Gwasanaeth Gwaed a Thrawsblaniadau Cenedlaethol ac mae pob un o'r pedwar cenedl yn y DU wedi ei gymeradwyo.

Nod y strategaeth yw cynyddu cyfradd rhoi organau ar gyfer trawsblannu i safonau rhyngwladol dros y saith mlynedd nesa', yn ogystal â chyfradd yr organau sy'n cael eu rhoi wedi i rywun farw - sydd eisoes wedi codi 50% ers 2008.

Yr wythnos ddiwetha' pleidleisiodd ACau o blaid cyflwyno deddfwriaeth newydd, fydd yn golygu newid y system o roi organau yng Nghymru. O 2015 ymlaen, bydd yn rhaid i bobl optio allan o'r system os nad ydynt am roi eu horganau.

'Trawsnewid'

Meddai Mark Drakeford: "Rwy'n hapus fod Llywodraeth Cymru'n gallu cefnogi'r strategaeth newydd ac rydym yn rhannu'r nod o drawsnewid agwedd y cyhoedd tuag at roi organau.

"Yng Nghymru, rydym wedi penderfynu deddfu i newid y system caniatâd er mwyn arbed a gwella mwy o fywydau. Yr wythnos ddiwetha', mewn pleidlais hanesyddol, fe gytunodd y cynulliad cenedlaethol ar ddeddfwriaeth fydd yn cyflwyno system ble mae pobl yn optio mas o roi organau yng Nghymru o 2015.

"Rydym yn credu y bydd y newid hwn yn newid y diwylliant ac agwedd pobl tuag at roi organau, fel sydd wedi ei weld mewn gwledydd eraill sydd â systemau tebyg.

"Dim ond un weithred - er mor fawr - yw newid y ddeddfwriaeth. Bydd strategaeth 2020 yn amlinellu cyfres o fesurau ar gyfer y DU i gyd er mwyn adeiladu ar y llwyddianau yn y maes hwn."

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol