Rhybudd am ddiogelwch ar lan y môr
- Cyhoeddwyd

Mae'r RNLI yn rhybuddio pobl i fod yn ofalus wrth y traeth
Mae'r RNLI yn rhybuddio pobl sy'n ymweld â thraethau Cymru yn y tywydd braf i fod yn ofalus yn y dŵr.
Daw'r rhybudd wedi i ferch 14 oed foddi ar ôl mynd i drafferthion yn y môr ger y Barri.
Gyda mwy o dywydd braf ar y ffordd dros y penwythnos, mae disgwyl i draethau Cymru fod yn brysur iawn.
Y llynedd cafodd dros 1,400 o bobl gymorth gan yr RNLI yng Nghymru, mewn dros 1,300 o achosion gwahanol.
Mae'r RNLI wedi delio gyda nifer fawr o ddigwyddiadau dros y pythefnos diwethaf, yn enwedig achosion o bobl yn mynd i drafferthion mewn cychod bychain, ac maent yn rhybuddio pobl i fod yn ofalus.
Mae Dylan Jones, o'r RNLI, yn dweud bod nifer o achosion yn digwydd gyda chychod gwynt, neu dinghys.
"Gyda'r tywydd braf mae lot o bobl yn mynd i'r dŵr, a ddim yn talu sylw i'r baneri ar y traeth sy'n dangos lle sy'n ddiogel i nofio."
"Maen nhw'n gallu mynd i drafferth hefo tonnau neu gerrynt, ac yn ddiweddar mae 'na lawer o achosion hefo pobl mewn caiacs a dinghys."

Bu farw Hollie McClymont wedi iddi fynd i drafferth yn y môr ger y Barri
Daw'r rhybudd yn dilyn marwolaeth merch 14 oed o'r Alban, wedi iddi fynd i drafferthion yn y môr ger y Barri.
Roedd Hollie McClymont ar wyliau gyda'i theulu, pan aeth ar goll brynhawn dydd Sul.
Wedi ymgyrch gan Wylwyr y Glannau a'r Heddlu, daethpwyd o hyd i'w chorff ger Ffont-y-Gari ddydd Mercher.
Peryglon
Dywedodd Elin Jones, o'r RNLI, bod angen i bobl sylweddoli bod y môr yn gallu bod yn beryglus.
"Mae'r peryglon yn ymwneud â'r tywydd, y gwynt a'r llanw, ac rydych chi'n gallu cael eich dal allan.
"Mae cychod gwynt yn gallu mynd i drafferth ac mae pobl yn gallu cael eu cario allan i'r môr yn sydyn iawn, a chyn iddyn nhw sylweddoli maen nhw hanner milltir allan."
"Mae 'na berygl i bob math o ddefnyddwyr, nofwyr, rheiny sy'n defnyddio caiac, a phlant mewn dinghys."
Y cyngor i ddefnyddwyr y môr yw i gario offer angenrheidiol gyda nhw.
Mae hyn yn cynnwys ffôn neu radio os yn defnyddio cwch neu gaiac, siaced achub a ffaglau os yn bosib.
Mae'r RNLI yn cynghori unrhyw un sydd yn mynd allan ar y môr i wisgo dillad addas, ac i ddweud wrth rywun eu bod yn mynd, a phryd y byddan nhw'n ôl.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2013
