BBC Cymru Wales am symud eu phencadlys
- Cyhoeddwyd

Agorwyd yr adeilad presennol yn swyddogol ar ddydd Gŵyl Dewi 1967
Mae BBC Cymru Wales wedi cyhoeddi cynlluniau i adleoli eu pencadlys yng Nghaerdydd i ganolfan ddarlledu newydd rywle yn y brifddinas erbyn 2018.
Mae'r gorfforaeth wedi bod yn ei chartref yn Llandaf ers 1966, ond nawr mae'r BBC yn ystyried nifer o safleoedd posib ar gyfer y datblygiad newydd.
Mae problemau cynyddol gyda thechnoleg yn y ganolfan ddarlledu bresennol wedi bod yn ffactor allweddol yn y penderfyniad i gael pencadlys newydd pwrpasol yn hytrach nag ailwampio'r safle yn Llandaf neu symud i adeilad sy'n bodoli eisoes.
Bu'r BBC yn ystyried y dewisiadau o ran eiddo ers i astudiaeth gychwynnol gael ei chymeradwyo yn 2011, a bydd nawr yn gweithio gyda datblygwyr eiddo i gael hyd i safle addas.
Bydd safle ffafriedig yn cael ei ddewis erbyn y gwanwyn, pan fydd y cynllun terfynol yn cael ei ystyried gan Weithrediaeth ac Ymddiriedolaeth y BBC.
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Gweithrediadau a Chyllid y BBC, Anne Bulford: "Ry'n ni'n credu y gallai'r cynlluniau cyffrous yma gryfhau'n sylweddol rôl BBC Cymru Wales fel darlledwr cenedlaethol Cymru tra'n creu cyfleoedd newydd a chyffrous hefyd i'r sector creadigol a'r cyfryngau ehangach yng Nghymru.
"Mae'r adeilad yn Llandaf yn heneiddio ac yn amlwg yn dod i ddiwedd ei oes, ac mae'n bryd i ni edrych i'r dyfodol."
Sbardun ar gyfer y sector creadigol?
Yn ôl Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales, Rhodri Talfan Davies: "Mae'n newyddion gwych ac mae'n rhoi cyfle i ni ddatblygu canolfan ddarlledu newydd all weithredu fel sbardun go iawn ar gyfer y sector creadigol yng Nghymru."
Mae'r BBC hefyd yn trafod gydag S4C y posibilrwydd o gydweithio yn y ganolfan newydd.
Meddai Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Marchnata a Phartneriaethau S4C, Garffild Lloyd Lewis:
"Mae S4C yn cynnal astudiaeth ddichonoldeb ar hyn o bryd i'r posibilrwydd o symud rhannau o'n gwaith i rannau eraill o Gymru.
"Fe fydd ein trafodaethau â BBC Cymru yn rhan o'r un ystyriaethau, ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i drafod mewn manylder gyda nhw."
Cyfle i gydweithio
Mae'r ganolfan ddarlledu newydd arfaethedig wedi ei chroesawu gan rai cwmniau cynhyrchu annibynnol.
Dywedodd Huw Eirug Davies, prif weithredwr Boom Pictures: "Mae hyn yn newyddion da ar gyfer y diwydiannau creadigol yng Nghymru.
"Mae'r symudiad tuag at ganolfan ddarlledu fodern gyda'r dechnoleg ddiweddaraf yn y brifddinas, yn sicr o godi proffil y sector cyfryngau Cymraeg ar draws y DU.
"Rydym yn gobeithio y gall hyn hefyd ddod â budd i gwmnïau cyfryngau a chynhyrchu annibynnol. Mae yna gyfle sylweddol yma am gydweithrediad agosach a phartneriaethau gyda'r BBC ac eraill."
Mae Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru, Edwina Hart hefyd yn cefnogi'r cynllun i adleoli.
Dywedodd: "Mae ein sector diwydiannau creadigol yn un o'r rhannau o'r economi Gymreig sydd fwyaf deinamig ac sy'n tyfu gyflymaf.
"Byddai cynllun y BBC i symud ei phencadlys Cymreig i ganolfan ddarlledu bwrpasol newydd yng Nghaerdydd yn ailfudsoddiad sylweddol gwerth miliynau yn yr economi Gymreig sy'n dangos ymrwymiad tymor hir y BBC i Gymru a pharhad hyder yn y sgiliau creadigol a thechnegol sydd ar gael yma."