Mwy'n chwilio am help 'oherwydd newid y drefn fudd-daliadau'
- Cyhoeddwyd

Ers Ebrill mae'r llywodraeth wedi torri'r budd-dal oedd yn cael ei roi i bobl ag ystafell 'sbâr" yn eu tai
Mae rhai cynghorau'n dweud bod llawer mwy o bobl yn chwilio am help i dalu rhent, yn ôl manylion ddaeth i law Plaid Cymru.
Dywedodd y blaid fod Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol ar fai am newid y drefn budd-daliadau tai.
Yn ôl y manylion, mewn rhai ardaloedd roedd mwy o geisiadau am help ariannol yn y misoedd wedi'r newid nac yn y flwyddyn ariannol flaenorol i gyd.
Mae'r llywodraeth wedi dweud nad oes tystiolaeth fod cynghorau'n brin o daliadau dewisol.
Torri'r budd-dal
Ers Ebrill mae'r llywodraeth wedi torri'r budd-dal oedd yn cael ei roi i gymdeithasau tai neu denantiaid cyngor yr oedd eu hystafelloedd gwely'n wag.
Mae beirniaid wedi galw hon yn "dreth ystafell wely" ond mae'r llywodraeth wedi dadlau bod angen i fudd-daliadau gael eu seilio ar y gofod y mae tenantiaid ei angen.
Gall cynghorau drefnu taliadau dewisol er mwyn helpu rhai sy'n talu treth y cyngor ac yn derbyn budd-dal tai.
Dewisol
Yn ôl y manylion ddaeth i law Plaid Cymru oddi wrth 21 o gynghorau, roedd nifer ceisiadau am daliadau dewisol yn y ddau neu dri mis o dan y drefn newydd yn fwy na'r flwyddyn 2012-13 i gyd.
Ym Mro Morgannwg roedd 136 yn 2012-13 tra oedd 524 rhwng Ebrill a Mehefin eleni.
Yn Wrecsam roedd 59 y llynedd a 219 eleni.
Yn Abertawe roedd 802 y llynedd a 820 yn Ebrill a Mai eleni.
'Gwir effaith'
Dywedodd AC Plaid Cymru Jocelyn Davies, eu llefarydd ar dai: "Mae'r manylion yn dangos gwir effaith polisi'r llywodraeth ar denantiaid.
"Ac mae'r effaith ar bobol fregus yn fawr.
"Yn sicr, mae llawer yn gorfod troi at awdurdodau lleol i gael help ychwanegol gyda'u costau tai."
Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau: "Ni allwn ni fforddio talu budd-dal i rai ag ystafelloedd sbâr pan mae milynau ar restrau aros ac mewn tai heb ddigon o le.
"Does dim tystiolaeth fod cynghorau'n rhedeg allan o daliadau dewisol.
"Ond rydym yn cadw llygad ar effaith y newid i'r drefn, gan gynnwys monitro sut mae cynghorau'n gwario'r arian ychwanegol rydym wedi ei roi i gefnogi'r rhai bregus."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Awst 2013

- Cyhoeddwyd15 Mai 2013
