Miliband: Addewid ar brisiau ynni
- Cyhoeddwyd

Miliband: Rhewi prisiau ynni am 20 mis
Byddai Llafur yn rhewi prisiau nwy a thrydan i gartrefi a busnesau am 20 mis pe bai nhw'n fuddugol yn yr etholiad cyffredinol yn 2015 yn ôl eu harweinydd Ed Miliband.
Yng nghynhadledd flynyddol ei blaid yn Brighton dywedodd y byddai'r cwmnïau ynni mawr yn cael eu rhannau'n gwmnïau llai ac yn cael eu rheoli gan reoleiddiwr newydd mwy grymus - er mwyn rhoi "chwarae teg i gwsmeriaid".
Dywed Llafur y byddai polisi o'r fath ar gyfartaledd yn arbed £120 i bob cartref a £1,800 i fusnesau bob blwyddyn
Y gost i'r cwmnïau ynni fyddai £4.5 biliwn, yn ôl Llafur.
Dywedodd Mr Miliband fod y cwmnïau ynni wedi bod yn codi gormod ar gwsmeriaid am amser rhy hir a bod angen ail osod ffiniau'r farchnad.
Bu Mr Miliband yn areithio am dros awr wrth geisio amlinellu ei weledigaeth.
Dywedodd y byddai Llafur hefyd yn cefnogi mesurau fyddai'n rhoi'r bleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 oed mewn etholiadau cyffredinol.
Dywedodd mai bwriad Llywodraeth Lafur erbyn 2020 fyddai codi 200,000 o gartrefi newydd bob blwyddyn
Rhewi prisiau
Cafodd gymeradwyaeth brwd wrth amddiffyn y Gwasanaeth Iechyd ac am addo i gael gwared ar "y dreth ystafell wely".
Fe wnaeth o amddiffyn safiad ei blaid ar Syria.
Er iddo ymosod yn hallt ar y prif weinidog David Cameron a'r canghellor George Osborne, doedd yna ddim son o gwbl am bartneriaid y Ceidwadwyr yn y glymblaid, y Democratiaid Rhyddfrydol.
Wrth son am ynni dywedodd y byddai'n cael gwared ar Ofgem - ac yn sefydlu corff rheoleiddio newydd ar gyfer y diwydiant ynni.
"Byddwn yn deddfu ar gyfer hyn yn Araith y Frenhines, a byddai'r corff newydd yn dod i rym yn 2017. "
"Ond yn y cyfamser nid wyf am wneud dim. Felly bydd y llywodraeth Lafur nesa yn rhewi prisiau nwy a thrydan tan ddechrau 2017."
Yn ôl Llafur mae cwmnïau ynni wedi bod yn codi gymaint â £3.9 biliwn yn ormod ar gwsmeriaid ers 2010 - a hynny wrth beidio â throsglwyddo unrhyw ostyngiad ym mhris olew a nwy i gwsmeriaid.
'Syniadau cyffrous'
Wrth ymateb i araith Mr Miliband dywedodd Owen Smith, llefarydd Llafur ar Gymru:
"Mae gweledigaeth Ed - sef y gallwn wneud yn well na'r hyn sy'n cael ei gynnig - yn cael ei gefnogi gyda syniadau a pholisïau ymarferol a chredadwy.
"Bydd y polisïau o fudd i deuluoedd, rhewi prisiau trydan a nwy, cryfhau'r isafswm cyflog, creu miliwn o swyddi yn yr economi werth a datrys yr argyfwng tai drwy godi 2 filiwn o dai newydd.
"Mae'r rhain yn syniadau cyffrous gan blaid Lafur sydd unwaith yn rhagor am gael ei gweld fel Plaid y Bobl."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Medi 2013

- Cyhoeddwyd21 Medi 2013

- Cyhoeddwyd8 Medi 2013
