Caerdydd: Bwrdd rheoli yn cwrdd
- Cyhoeddwyd

Bydd bwrdd rheoli clwb pêl-droed Caerdydd yn cynnal cyfarfod dydd Llun yn dilyn y penderfyniad dadleuol i wahardd y pennaeth recriwtio, Iain Moody, o'i waith a phenodi Alisher Apsalyamov, dyn 23 oed dibrofiad, yn ei le
Mae'r clwb wed gwadu adroddiadau eu bod wedi gofyn i'r rheolwr Malky Mackay i ymddiswyddo.
Yn ôl y son mae Mackay wedi rhoi'r gorau i obeithio y gallai gadw Moody yn y clwb ond na fydd ef ei hun yn ymddiswyddo
Mae disgwyl iddo ofyn am sicrwydd gan y bwrdd rheoli dydd Llun ei fod yn parhau i fwynhau cefnogaeth y perchennog Vincent Tan.
Credir bod Apsalyamov yn ffrind i fab Tan.
Dyw'r clwb heb wneud unrhyw sylw ar y penodiad newydd.
Mae Tan wedi dweud fod ganddo pob ffydd yn Mackay: "Rwyf wedi ei gefnogi yn y gorffennol a bydd af yn parhau i wneud hynny am y blynyddoedd sydd i ddod. "
Mae Moody wedi bod yn rhan o dîm rheoli Mackay ers sawl blwyddyn, gan sicrhau nifer o drosglwyddiadau mawr i'r Adar Gleision dros yr haf.
Roedd Moody yn rhan o dîm rheoli Malky Mackay yn Watford, lle bu'n swyddog y wasg cyn symud gyda'r Albanwr i Gaerdydd yn 2011.
Yn ei swydd recriwtio gyda'r Adar Gleision, mae Moody wedi helpu i ddenu chwaraewyr fel Gary Medel a Steven Caulker i'r clwb.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2013

- Cyhoeddwyd9 Hydref 2013
