Camwerthu: Pryder am fusnesau bach
- Cyhoeddwyd

Guto Bebb AS: yn arwain pwyllgor sy'n ymchwilio
Mae busnesau o Gymru yn parhau i fethu chwe mis ar ôl i gynllun gael ei sefydlu i'w helpu nhw yn sgil cam-werthu pecynnau ariannol.
Dywedodd Guto Bebb, AS Aberconwy a chadeirydd pwyllgor seneddol sy'n ymchwilio i'r mater, fod llawer o arian wedi ei wario ar weinyddu'r cynllun cymorth ond nad oedd yn cyrraedd y busnesau sydd wedi diodde' colledion.
Mae Mr Bebb wedi galw ar y banciau a'r FCA, y corff sy'n goruchwylio'r sector ariannol, i gyflymu'r drefn ddigolledu.
Yn y cyfamser, mae'r busnesau dan sylw wedi dweud nad oedden nhw'n ymwybodol o risg Cytundebau Cyfnewid Cyfraddau Llog.
Dywedodd Mr Bebb: "Mae busnesau yn methu o hyd nid oherwydd penderfyniad anghywir ond oherwydd bod cynnyrch wedi ei werthu iddyn nhw ar gam ac mae gwir angen i'r FCA symleiddio'r drefn a symud yn gyflymach."
Mae Mr Bebb wedi trafod problemau busnesau bach yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Iau.
Y gred yw bod y taliadau cytundebau wedi effeithio ar 40,000 o fusnesau yn y Deyrnas Gyfun.
Roedd nifer o ŵyr busnes mewn rali y tu allan i Dŷ'r Cyffredin ddydd Iau, gan gynnwys Carwyn James, ffarmwr o Grymych yn Sir Benfro.
Yn ôl Mr James, mae angen i Barclays ad-dalu £180,000 iddo.
'Pwysau'
Mae wedi beirniadu'r banciau, nid yn unig am werthu pecyn cytundeb iddo yn y lle cyntaf ond hefyd am iddyn nhw godi taliadau ychwanegol pan oedd yn wynebu problemau.
"Roedd yna broses o roi pwysau ar rywun, yn aros i ni ffaelu," meddai.
"Roedd yna agwedd o wneud arian mawr mewn cyfnod byr. Hwn oedd y peth gwaetha' o'n nhw'n gallu 'i wneud.
"Yn hytrach na helpu busnesau roedden nhw'n gwneud y gwrthwyneb."
Yn 2006 fe benderfynodd arallgyfeirio.
Dywedodd eu bod wedi benthyca er mwyn prynu siop a garej a'u moderneiddio.
"Dywedodd y rheolwr banc y dylen ni ga'l rhywbeth mewn lle i ddiogelu rhag symudiad yn y cyfraddau llog.
"Dechreuodd taliadau fynd o'r cyfrif wrth i gyfraddau llog gwympo ac roedd y taliadau'n cynyddu wrth i gyfraddau gynyddu.
"Erbyn 2008 roedd £10,000 y chwarter yn mynd o'r cyfrif - ac roedd hynny ar ben ein benthyciadau ni.
'Sefyllfa erchyll'
"Roedd hi'n sefyllfa erchyll ac yn niweidiol i ni, y teulu ac i'r busnes."
Mae'n dweud fod y banc wedi cydnabod y ffaith iddynt werthu'r cynllun ar gam.
Yn ôl Iestyn Davies o Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru, roedd cam-werthu'r cytundebau yn rhoi busnesau dan straen aruthrol a hynny pan oedden nhw'n ceisio ymdopi â'r dirwasgiad.
"Mae nifer o fusnesau wedi mynd i'r wal ... ac mae iechyd unigolion wedi dioddef.
"Hefyd mae yna niwed tymor hir i hygrededd y banciau.
"Mae angen cymorth ac mae angen hyn yn gyflym.
'Yn anfoesol'
"Roedd y gweithredoedd hyn yn anfoesol ac yn fwy na thebyg yn anghyfreithiol ac mae wedi niweidio pobl.
"Yn sicr, mae angen sicrhau bod y bobl hyn yn dychwelyd i'r drefn yr oedden nhw ynddi cyn i'r cytundebau gael eu gwerthu."
Dywedodd llefarydd ar ran yr FCA fod y broses yn cael ei chyflymu a'u bod yn gobeithio arolygu'r rhan fwyaf erbyn diwedd y flwyddyn.
Roedd rhai banciau, meddai, newydd gyhoeddi y bydden nhw'n dechrau talu iawndal fesul cam a bod hyn yn cyflymu'r broses.
Dywedodd llefarydd ar ran Barclays eu bod wedi sefydlu proses i adnabod y rhai gafodd eu heffeithio.
"Ar ôl derbyn cynnig iawndal, a phe bai cwsmer yn rhoi cais newydd o fewn derbyn cynnig iawndal yna fe fyddwn yn adolygu'r sefyllfa a rhoi cynnig iawndal terfynol iddynt o fewn 28 diwrnod i'w cais," meddai'r llefarydd
"Fe fyddwn yn annog pobl sydd heb ymateb eto, i wneud hynny yn fuan fel bod y broses adolygu yn dechrau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Medi 2013

- Cyhoeddwyd4 Medi 2013
