Dyn wedi'i arestio wedi marwolaeth
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i farwolaeth dyn yn ardal Tondu, ym Mhen-y-bont ar Ogwr, nos Fercher.
Fe gafodd yr heddlu eu galw i eiddo yn Heol yr Ysgol am 7:46yh, gan ddarganfod dyn 50 oed yno'n gorwedd.
Fe'i cludwyd i Ysbyty Tywysoges Cymru lle cofnodwyd ei fod wedi marw.
Mae dyn 26 oed o'r un ardal wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, ac mae'n cael ei gadw yng ngorsaf heddlu Bae Caerdydd.
Dywedodd y Ditectif Uwch-Arolygydd Paul Hurley: "Rwy'n apelio ar unrhyw un oedd yn yr ardal neithiwr ac a welodd neu a glywodd y digwyddiad i gysylltu â ni."
Dylai pobl all fod o gymorth i'r ymchwiliad ffonio'r heddlu ar 01656 306099 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.