Diffoddwyr tân yn streicio
- Cyhoeddwyd

Bydd y streic yn digwydd gyda'r nos ddydd Gwener a fore Llun
Mae apêl yn cael ei wneud i gymunedau fod yn "wyliadwrus" ddydd Gwener 1 Tachwedd gan y bydd ymladdwyr tân yn streicio rhwng 6:30yh a 11:00yh.
Anghydfod rhwng Llywodraeth y DU ac Undeb y Brigadau Tân yw achos y streic fydd yn parhau ddydd llun am ddwy awr o 6:00yb ymlaen.
Mae'r undeb yn anhapus gyda chynlluniau i godi'r oed ymddeol o 55 i 60, gan honni bod y math o waith mae diffoddwyr tân yn ei wneud yn golygu bod gweithwyr hŷn yn ei chael hi'n anodd.
Ond mae gweinidogion y llywodraeth yn dweud bod y streic yn gwbl ddiangen ac yn gwneud niwed i enw da diffoddwyr tân.
'Dyletswydd ac ymrwymriad'
Dywedodd prif swyddog tân cynorthwyol Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTACD) mai achub bywydau fydd blaenoriaeth y criwiau tân yn ystod y streic:
"Tra bod Awdurdod Tân ac Achub De Cymru yn deall pam bod staff yn gweithredu'n ddiwydiannol," meddai Rod Hammerton, "mae gan yr awdurdod ddyletswydd ac ymrwymiad i sicrhau bod darpariaeth gwasanaethau i'r cyhoedd yn parhau heb effaith arnynt, cyhyd ag sy'n ymarferol resymol, yn enwedig lle bydd angen ymateb mewn argyfwng."
Er y bydd y gwasanaeth tân yn derbyn cymorth gan y lluoedd arfog maen nhw'n pwysleisio y bydd rhaid iddyn nhw flaenoriaethu.
Oherwydd hynny hynny maent yn dweud dylai aelodau o'r cyhoedd ddisgwyl tan y dydd Sadwrn cyn galw'r gwasanaeth os nad yw'r achos yn un brys.
Bydd y streic yn effeithio ar Gymru gyfan yn ogystal â Lloegr, ond mae Llywodraeth yr Alban wedi llwyddo i osgoi gweithredu diwydiannol yno am y tro.
Mae rhif ffôn pwrpasol ar gyfer ymholiadau'r cyhoedd (01443 232181) yn ogystal â chyfeiriad e-bost (ymholiadau@decymru-tan.gov.uk).
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2013

- Cyhoeddwyd25 Medi 2013

- Cyhoeddwyd17 Medi 2013
