Ystyried codi tâl am wasanaethau
- Cyhoeddwyd

Pencadlys Cyngor Sir Benfro
Bydd cynghorwyr Sir Benfro yn cwrdd ddydd Llun i drafod ystod o fesurau dadleuol i arbed arian, gan gynnwys codi tâl am wasanaethau cymdeithasol.
Mae cau toiledau cyhoeddus hefyd ar yr agenda wrth i'r awdurdod ystyried effeithiau toriadau cyllidol ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Mae cynghorau ar draws Cymru yn trafod arbedion yn dilyn cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru.
Mater arall dan ystyriaeth fydd dyfodol Ysgol Uwchradd Tyddewi a chartref gofal yn Arberth.
Bydd gwariant llywodraeth leol yn cael ei gwtogi o £4.648 biliwn eleni i £4.466bn y flwyddyn nesaf, sef toriad o 5.8% mewn termau real.
'Cyfnod anodd'
Mae arweinydd y cyngor Jamie Adams eisoes wedi dweud y bydd yr awdurdod yn diodde', ond mae'n awyddus i warchod gwasanaethau rheng flaen.
"Rhaid i ni chwarae ein rhan wrth wneud arbedion mewn cyfnod anodd," meddai.
Mae adroddiad fydd gerbron y cynghorwyr yn rhybuddio bod y cyngor yn wynebu "pwysau cyllidol aruthrol".
Mae'r adroddiad hefyd yn dweud y dylid cynyddu taliadau am barcio, ac yn argymell codi tâl o 20c am ddefnyddio toiledau cyhoeddus a chau rhai eraill.
Ond yr argymhelliad mwyaf dadleuol o bosib yw'r un i gynnal ymgynghoriad ar godi tâl am wasanaethau cymdeithasol heblaw rhai preswyl.
Bydd y cynghorwyr hefyd yn trafod dyfodol cartref Sunnybank yn Arberth. Mae 10 o drigolion yna sy'n costio £1,000 yr wythnos, gyda 18 arall yn defnyddio'r lle ar gyfer gofal dros dro.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2013
