Llygod pathew mewn peryg o ddiflannu o gefn gwlad
- Cyhoeddwyd

Dim ond mewn rhai ardaloedd yng Nghymru mae'r llygod pathew yn byw erbyn hyn
Mae llygod pathew mewn peryg o ddiflannu o gefn gwlad yn gyfan gwbl yn ôl yr elusen cadwraeth Coed Cadw.
Yn y gorffennol roedd y llygod yn byw mewn sawl ardal yng Nghymru a Lloegr.
Ond erbyn hyn mond mewn rhai ardaloedd maen nhw'n dal i fodoli ac mae'r mudiad yn rhybuddio bod y niferoedd yn gostwng.
Y rheswm ydy eu bod nhw'n byw mewn coedwigoedd a nifer o rheiny wedi eu dinistrio yn ddiweddar.
Angen gweithredu
Yn ôl Coed Cadw mae chwech o goedwigoedd yng Nghymru lle mae llygod pathew yn byw wedi eu difetha neu'r coed wedi eu torri i lawr yn y ddeng mlynedd ddiwethaf.
Ac maen nhw'n dweud bod saith o goedwigoedd eraill o dan fygythiad.
Mae'r creaduriaid fel arfer angen hectar o dir i fedru byw a phan mae'r lle yn llawn o lygod eraill mae'n rhaid iddyn nhw symud i boblogi mewn coedwig arall.
Mae dros hanner o goedwigaeth ym Mhrydain wedi eu colli ers y ganrif ddiwethaf felly mae hi yn fwy anodd iddyn nhw ffeindio cartref newydd.
Dyw afiechydon diweddar ar goed chwaith ddim wedi helpu'r sefyllfa. Mae tua 45,000 o lygod pathew ym Mhrydain heddiw, sydd yn hanner y nifer oedd yn bodoli 100 mlynedd yn ôl.
Yn ôl John Tucker, sydd yn gweithio efo Coed Cadw mae'n rhaid gwneud rhywbeth i wella'r sefyllfa:
"Yr unig ffordd i wneud yn siŵr bod y rhywogaeth yma yn goresgyn yw creu tirwedd sydd yn mynd i bara trwy blannu mwy o goed a chael mwy o amrywiaeth o goedwigoedd. Mae angen mwy o wrychoedd... a gwell ffordd o drin y gwrychoedd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2013

- Cyhoeddwyd23 Medi 2013

- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2013
