Ymgyrch Pallial: Arestio 15fed person
- Cyhoeddwyd

Cafodd dyn 62 oed o'r Wyddgrug ei arestio gan yr Asiantaeth Droseddau Cenedlaethol
Mae'r Asiantaeth Droseddau Cenedlaethol (NCA) wedi arestio 15fed person yn rhan o Ymgyrch Pallial, sy'n ymchwilio i honiadau o droseddau rhyw hanesyddol yng ngogledd Cymru.
Cafodd y dyn 62 oed sy'n dod o'r Wyddgrug ei arestio ar amheuaeth o nifer o droseddau o ymosod yn anweddus a chreulondeb tuag at blant.
Honnir i'r troseddau gael eu cyflawni yn erbyn tri bachgen ac un ferch rhwng 10 ac 15 oed, a hynny rhwng 1973 a 1976.
Ymgyrch Pallial
Hyd yma mae un dyn wedi cael ei gyhuddo o nifer fawr o droseddau rhyw.
Mae John Allen, 72 oed o Ipswich, Suffolk, wedi ei gyhuddo o 32 o droseddau yn erbyn 14 o fechgyn ac un ferch rhwng 1968 a 1989.
Yn gynharach ym mis Tachwedd dywedodd yr NCA eu bod wedi derbyn enwau neu ran o enwau 100 o bobl allai fod wedi cam-drin.
Ym mis Gorffennaf fe gyhoeddwyd Adroddiad Jillings, 17 mlynedd ar ôl iddo gael ei ysgrifennu.
Roedd yr adroddiad yn ystyried honiadau o gam-drin oedd wedi digwydd o fewn system ofal hen Gyngor Sir Clwyd.
Casgliad yr adroddiad oedd bod cam-drin yn y cartrefi gofal dan sylw yn "eang, ac wedi bod yn digwydd dros nifer helaeth o flynyddoedd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2013

- Cyhoeddwyd9 Medi 2013

- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2013
