Casnewydd 3 - 2 Chesterfield
- Cyhoeddwyd

Mae Casnewydd yn mwynhau eu tymor cyntaf yn Adran Dau
Fe lwyddodd Casnewydd i guro Chesterfield mewn gêm oedd yn llawn digwyddiadau yn Rodney Parade.
Sgoriodd Danny Crow i'r tîm cartref ar ôl pum munud a daeth gôl i'w gwneud hi'n gyfartal ar ôl awr.
Gwelwyd tair gôl yn y chwarter awr olaf - yn gyntaf Adam Chapman yn rhwydo o'r smotyn wedi i Conor Washington ei lorio yn y blwch cosbi.
Cafodd gerdyn coch am ei drafferth hefyd a llwyddodd Casnewydd i gymryd mantais gan sgorio eto dri munud cyn y diwedd.
Fe gafodd Chesterfield un arall yn ôl reit ar ddiwedd y gêm wnaeth arwain at eiliadau olaf cyffrous.
Ond llwyddodd Casnewydd i ddal ar eu mantais ac maen nhw nawr yn wythfed yn y tabl, un pwynt i ffwrdd o'r gemau ail gyfle.