Gatland yw Hyfforddwr y Flwyddyn
- Cyhoeddwyd

Warren Gatland yn dathlu ar ddiwedd y gêm dyngedfennol
Mae hyfforddwr rygbi Cymru a'r Llewod, Warren Gatland, wedi cael ei ddewis fel Hyfforddwr y Flwyddyn y DU.
Fe ddaeth i'r brig yng nghategori'r hyfforddwr perfformiad uwch hefyd yng ngwobrau UK Coaching 2013.
Gyda chyfres y Llewod yn gyfartal ar 1-1 wedi'r ddwy gêm gynta', sicrhaodd tîm Gatland fuddugoliaeth gofiadwy yn erbyn y Wallabies yn Sydney o 41 pwynt i 16.
Derbyniodd y wobr mewn seremoni arbennig yn Llundain nos Fawrth.
Mewn cyfweliad â'r BBC, dywedodd Gatland y byddai'n ystyried hyfforddi'r Llewod eto petai cyfle'n dod.
"Roedd yn brofiad anhygoel i fod yn rhan o'r holl beth," meddai. "Mae'n siŵr byddai mynd i Seland Newydd, i mi, yn gyfle gwych yn 2017 ond mae 'na lawer o bethau i ddigwydd cyn hynny.
"Mi fydda' i'n canolbwyntio dros y blynyddoedd nesa' ar wneud yn dda dros Gymru ac os yw Cymru'n gwneud yn dda yn y Chwe Gwlad ac yng Nghwpan y Byd yna rydych chi'n tynnu sylw at eich hun a gobeithio bydd cynnig yn dod eto.
"'Dy'ch chi byth yn gwybod a petawn i'n cael cynnig i'w wneud eto, yn enwedig yn fy ngwlad enedigol, yna rwy'n credu y byddai'n rhywbeth bydden i'n fwynhau'n arw."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2013

- Cyhoeddwyd16 Medi 2013

- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2013

- Cyhoeddwyd4 Medi 2012
