Cytundeb pum cyngor i fwydo ysbwriel i losgydd Viridor
- Cyhoeddwyd

Llosgydd Viridor yn cael ei adeiladu
O fis Medi 2015, mi fydd pump o Gynghorau De Cymru yn gyrru gwastraff i losgydd sbwriel Viridor yng Nghaerdydd, gan greu 40 o swyddi.
Ar ddydd Mawrth, Rhagfyr 10, llofnodwyd cytundeb rhwng Cynghorau Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Casnewydd a Sir Fynwy, a Viridor i greu ynni gwyrdd o'r hyn sy'n weddill o sbwriel wedi iddo gael ei ailgylchu a chompostio.
Partneriaeth
Mae'r pum Cyngor wedi dod at ei gilydd mewn "partneriaeth wyrdd."
Maent yn meddwl y byddent yn arbed £11m yn y flwyddyn gyntaf a £500m dros 25 mlynedd.
Ar hyn o bryd mae yna dros 400 o weithwyr yn adeiladu'r llosgydd ym Mharc Trident, Caerdydd ac mae disgwyl y bydd y Cynghorau yn dechrau anfon gwastraff yno yn mis Medi 2015, gyda'r gwasanaeth llawn yn dechrau ar Ebrill 1, 2016.
Meddai y Cynghorydd Russell Goodway, Cadeirydd y Cydbwyllgor: "Mae'r Cynghorau wedi cydweithio'n agos i sicrhau y bydd pob cyngor ar ei ennill yn sylweddol yn sgil y project yn yr hinsawdd anodd sydd ohoni.
"Mae'n enghraifft wych o sut y gall cynghorau lleol gydweithio i greu seilwaith y mae ei angen yn fawr, gan sicrhau arbedion ariannol hefyd.
"Drwy gydweithio, mae'r pum Cyngor wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru a phris gwell ar gyfer pob tunnell o wastraff sy'n cael ei thrin."
Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau ailgylchu heriol sydd wedi'u nodi dan y gyfraith ac mae pob Cyngor yn ymrwymedig i'w cyflawni.
Cynyddu Ailgylchu
Bydd y cytundeb yn cynyddu cyfraddau ailgylchu o 5% drwy dynnu unrhyw fetel sy'n weddill a defnyddio lludw gwaelod llosgydd (IBA) fel agreg ar gyfer deunydd adeiladu.
Meddai Cyfarwyddwr Datblygu Busnes Viridor, Howard Ellard:
"Ar ôl tair blynedd o dendro, rydym wrth ein bodd llofnodi'r cytundeb hwn ac edrychwn ymlaen at gynnig y gwasanaeth hanfodol hwn i bartneriaid y project a'u preswylwyr."
Mae'r cyfleuster yn cynrychioli buddsoddiad o fwy na £223m gan Viridor.
Ymysg y buddiannau eraill bydd cronfa gymunedol o £50,000 y flwyddyn i gefnogi projectau lleol yn y pump awdurdod; canolfan ymwelwyr i alluogi'r cyhoedd i weld y gwaith sydd yn digwydd; a Grŵp Cyswllt â'r Gymuned sy'n cynnwys preswylwyr, Aelodau Etholedig Chyfoeth Naturiol Cymru.
Bydd Prosiect Gwyrdd yn darparu 172,000 tunnell o wastraff y flwyddyn ar gyfartaledd, a gall ddelio gyda hyd at 350,000 tunnell. Bydd y cyfleuster yn cynhyrchu 28MW o bŵer drwy gynhyrchu trydan, a all fodloni anghenion 50,000 o gartrefi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2013
