Cyfarfod "anferth" rhwng y rhanbarthau a'r undeb
- Cyhoeddwyd

Mae hyfforddwr y Scarlets Simon Easterby wedi dweud bod y cyfarfod yn un "anferth"
Bydd cynrychiolwyr o'r pedwar rhanbarth rygbi yn cyfarfod gydag Undeb Rygbi Cymru (URC) yn ddiweddarach er mwyn ceisio cael cytundeb ar y ffordd ymlaen.
Mae'r Scarlets, Y Gleision, Y Gweilch a'r Dreigiau wedi dweud eu bod nhw eisiau chwarae yn erbyn timau Lloegr yn hytrach na chwarae yng ngwpan Heineken.
Mae prif hyfforddwr y Scarlets, Simon Easterby wedi dweud bod y cyfarfod yn un "anferth".
Fe allai'r pedwar rhanbarth gymryd camau cyfreithiol er mwyn cael yr hawl i chwarae yn erbyn clybiau Lloegr.
Roedd y rhanbarthau yn awyddus i ymuno gyda chwpan rygbi newydd a fyddai'n cynnwys 20 o glybiau. Cafodd y syniad ei grybwyll gan dimau Ffrainc a Lloegr.
Ond dyw'r cynllun ddim yn mynd yn ei flaen ar ôl i'r undebau cartref, heblaw am Loegr, ddweud eu bod wedi ymrwymo i gwpan Heineken.
Mae yna son cynyddol na fydd y rhanbarthau yn arwyddo cytundeb newydd tan 2018 gydag URC cyn y dyddiad cau ddiwedd Rhagfyr.
Mae'r cytundeb presennol yn golygu bod chwaraewyr yn cael eu rhyddhau i chwarae dros Gymru ac mi fydd y cytundeb hwnnw yn dod i ben ar ddiwedd tymor 2013/14.
Mae'r URC yn dweud ei bod yn cefnogi'r rhanbarthau ac wedi cynnig eu helpu i gadw chwaraewyr Cymru trwy gyflogi'r prif chwaraewyr pan mae eu cytundebau yn dod i ben yn 2014.
Ar hyn o bryd mae'r rhanbarthau yn dweud eu bod nhw yn ffeindio hi'n anodd cynnig cytundebau am fod yna ansicrwydd ynglŷn â chwpan Heineken.
Warburton yn gadael hefyd?
Mae capten Cymru, Sam Warburton wedi dweud wrth Y Gleision ac URC bod yn rhaid iddyn nhw gynnig cytundeb iddo erbyn dydd Mercher neu y bydd yn ymuno gyda chlwb y tu allan i Gymru.
Nid fo ydy'r unig un sydd yn ystyried chwarae dramor ac mae Jonathan Davies yn un o nifer o chwaraewyr ifanc sydd eisoes wedi arwyddo gyda thim tu allan i Gymru.
Yn ôl hyfforddwr y Scarlets, Simon Easterby mae'n holl bwysig bod y rhanbarthau a'r undeb yn dod i gytundeb.
"Mae'n rhaid i'r ddwy ochr ddod at ei gilydd a chael yr un bwriad a gobeithio'r un ffordd o feddwl ynglyn â'r ffordd i ddatblygu'r gêm. Fel arall rydyn ni yn mynd i golli cyfle.
"Dyna pa mor bwysig ydy hwn. Mae'n gyfle mawr i ddiogelu'r gêm yma ar gyfer y pedair neu pum mlynedd nesaf. Does 'na ddim moment bwysicach o fewn y gêm broffesiynol. Mae'r cyfarfod yn un anferth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2013

- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2013

- Cyhoeddwyd22 Hydref 2013
