Economi Cymru wedi tyfu 1.6% yn 2012
- Cyhoeddwyd

Os yw'r mesur Gwerth Ychwanegol Crynswth yn gywir fe wnaeth economi Cymru gynyddu 1.6% y llynedd
Mae ffigyrau newydd yn awgrymu bod economi Cymru wedi tyfu 1.6% y llynedd yn ôl un mesur o berfformiad economaidd.
Yn ôl y ffigyrau Gwerth Ychwanegol Crynswth (GYC) diweddaraf a gyhoeddwyd ddydd Mercher, dim ond mewn dwy ran arall o'r DU y bu yna dwf uwch yn ystod 2012.
Mae GYC yn fesur o'r incwm sy'n cael ei gynhyrchu gan fusnesoedd - ond gyda chost y nwyddau a'r gwasanaethau gafodd eu defnyddio er mwyn creu'r incwm wedi cael eu tynnu.
Mae'r ffigyrau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos mai Llundain oedd â'r GYC uchaf yn 2012 (£37,232 y pen), a GYC Cymru oedd yr isaf (£15,401).
Er mai'r ffigwr Cymreig oedd yr isaf, roedd y cynnydd yng Nghymru'r llynedd yn 1.6%. Dim ond mewn dwy ran arall o'r DU y bu yna gynnydd mwy: gogledd orllewin Lloegr (1.7%) a de ddwyrain Lloegr (2.5%).
Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos mai yng nghymoedd Gwent y bu'r twf mwyaf yng Nghymru (5.3%).
Crebachodd yr economi 4% yn ne orllewin Cymru, a 2.6% yn Sir Fynwy a Chasnewydd.
Mesur amrwd?
Dywedodd llefarydd ar ran Lywodraeth Cymru: "Mae ffigyrau GYC yn dueddol o fod yn fesur eithaf amrwd o berfformiad economaidd ac mae angen eu dehongli'n ofalus.
"Ond pan mae'r ffigyrau diweddaraf yn cael eu hystyried ochr yn ochr â mesurau economaidd eraill, mae'n glir fod Cymru'n perfformio'n gryf mewn cymhariaeth â rhannau eraill o'r DU..."
"Ar waetha'n perfformiad economaidd, mae'n glir fod nifer o bobl ar draws y wlad ddim eto yn teimlo'r budd o unrhyw welliant yn yr economi.
"Dyna pam rydyn ni wedi ein hymrwymo i wneud popeth ry'n ni'n medru ei wneud fel llywodraeth i gefnogi busnesau yng Nghymru a chreu economi gref a chynaliadwy."
Wrth ymateb i'r ystadegau, dywedodd llefarydd yr wrthblaid ar fusnes, Nick Ramsay AC: "Pedair blynedd ar ddeg o Lafur - ac, ar GYC, mae Cymru'n parhau i fod y rhan dlotaf o'r DU. Mae'r ffigyrau yma'n adlewyrchiad gwarthus o lywodraethau olynol sydd wedi eu harwain gan Lafur.
"Mae biliynau o gyllid yr EU heb gael eu gwario'n iawn gan weinidogion Llafur ac mae potensial enfawr Cymru'n cael ei wastraffu.
"Mae ein gwlad yn un a all lwyddo'n fyd-eang. Mae hi angen Llywodraeth Cymru sy'n gwireddu ei photensial..."
'Dim cynllun creadadwy'
Beirniadodd yr AS Jonathan Edwards o Blaid Cymru lywodraethau Cymru a'r DU "am ganiatáu i economi Cymru i ddirywio'n sylweddol heb gynnig cynllun credadwy i sicrhau adferiad".
Dywedodd bod angen buddsoddi mewn prosiectau isadeiledd fel ysgolion, ysbytai a rheilffyrdd er mwyn creu swyddi a thwf ond nad oedd modd cyflawni hynny heb drosglwyddo rhagor o bwerau o San Steffan i Gymru:
"Rydym yn croesawu'r cynnydd ar weithredu argymhellion y Comisiwn Silk, ond mae'n rhaid i Lafur yng Nghymru beidio cefnu i gornel gwrth-ddatganoli drwy laesu dwylo ar y mater o refferendwm treth incwm.
"Mae trefniant rhannu trerth-incwm yn hanfodol i ddatgloi pwerau buddsoddi ystyrlon."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2013

- Cyhoeddwyd25 Hydref 2013

- Cyhoeddwyd10 Hydref 2013

- Cyhoeddwyd13 Mai 2013
