Cyfeirio achos llawfeddyg at yr heddlu

  • Cyhoeddwyd
David Paul Berry
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr Athro Berry ei wahardd ym mis Ionawr wedi i'r marwolaethau ddod i'r amlwg

Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau fod achos y llawfeddyg iau wedi cael ei gyfeirio atyn nhw.

Cafodd yr Athro David Paul Berry ei wahardd o'i waith yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd ym mis Ionawr yn dilyn wyth marwolaeth y "gellid fod wedi eu hosgoi".

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Paul Hurley: "Mae'r mater hwn wedi cael ei gyfeirio aton ni gan Fwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro.

"Yn dilyn adroddiad gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon i'r mater rydym wedi siarad gyda'r crwner ac rydym nawr yn ymgynghori gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron er mwyn edrych ar y ffeithiau."

Yn gynharach fe wnaeth y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford wrthod galwadau i gynnal ymchwiliad cyffredinol i ysbytai Cymreig er mwyn tawelu meddwl y cyhoedd ynglyn a safonnau o fewn y gwasanaeth iechyd.

Dim angen ymchwiliad?

Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol oedd wedi cyflwyno cwestiwn brys yn gofyn am ddatganiad gan Mr Drakeford.

Dywedodd y gweinidog mewn ymateb: "Mae unrhyw farwolaeth y gellir ei osgoi yn y gwasanaeth iechyd yn fater o ofid dwys.

"Mae'n rhaid i bob sefydliad gael systemau llywodraethu clinigol cadarn ar waith i archwilio canlyniadau cleifion fel mater o drefn a gweithredu ar unwaith os oes pryderon yn codi.

"Ataliwyd llawfeddyg yn Ysbyty Athrofaol Cymru o ganlyniad i broses o'r fath".

Fe alwodd y Ceidwadwyr am adolygiad i ysbytai Cymru, gan dynnu sylw at y ffaith fod Coleg Brenhinol y Llawfeddygon hefyd wedi galw am un.

Dywedodd Mr Drakeford nad oedd angen adolygiad gan fod yr achos dan sylw wedi dod i'r amlwg "heb unrhyw adolygiad allanol".

Straeon perthnasol