Dyn yn euog o achosi marwolaeth mam a'i babi yn y groth
- Cyhoeddwyd
Mae gyrrwr wedi ei ganfod yn euog o achosi marwolaeth dynes feichiog mewn damwain ffordd yng ngogledd Cymru.
Clywodd y llys bod Calvin Connah, 22, o Goed-llai ger yr Wyddgrug, yn gyrru ar gyflymder o 85mya cyn i'w gar daro yn erbyn un Christina Barchetti ar yr A541 ym Mhontblyddyn ym mis Hydref 2012.
Bu farw Ms Barchetti a'i babi yn y groth, Bella Clarke, yn ddiweddarach yn Ysbyty Maelor Wrecsam.
Roedd Connah wedi gwadu achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.
Clywodd y llys bod Connah wedi bod yn gyrru BMW ei dad ac yn ceisio pasio car arall cyn diwedd darn o ffordd ddeuol.
Ond roedd rhaid iddo frecio yn galed wrth i'r ffordd newid i un lon.
Collodd reolaeth o'r cerbyd ac aeth yn syth i mewn i Ford Ka Ms Barchetti.
Clywodd y llys ei bod hi wedi bod yn gyrru ar 40mya, a bod y gwrthdrawiad wedi ei gwthio yn ôl drwy wal ac i mewn i goedwig.
'Camgymeriad'
Yn ystod yr achos, dywedodd Connah ei fod wedi bod yn gyrru ar 60mya, a'i fod wedi colli rheolaeth oherwydd y tywydd gwlyb.
Dywedodd ei fod wedi gwneud camgymeriad.
Ond yn ôl tystion, roedd y diffynnydd wedi bod yn gyrru yn rhy gyflym, a dywedodd yr ymchwilydd i'r achos ei fod yn debyg iddo fod yn teithio ar 85mya cyn y gwrthdrawiad.
Cafodd Connah ei gadw yn y ddalfa cyn cael ei ddedfrydu.
Dywedodd y barnwr Philip Hughes y dylai ddisgwyl cyfnod yn y carchar.
Roedd Connah wedi cyfaddef achosi marwolaeth drwy yrru heb ofal, ond gwadodd y cyhuddiad mwy difrifol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2012