Terynged i ddyn gafodd ei daro gan gar ym Mhonytpridd
- Cyhoeddwyd

Cafodd Gary Williams ei daro gan gar ym Mhontypridd brynhawn Gwener
Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi enw dyn a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd ym Mhontypridd brynhawn Gwener.
Cafodd Gary Williams, 49, o Beddau, ei gludo i Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn dilyn y digwyddiad ar y gyffordd rhwng Lôn Penuel a Ffordd y Llyfrgell tua 12:00yh.
Bu farw yn yr ysbyty yn ddiweddarach.
Roedd Mr Williams wedi bod yn dechnegydd awyrennau gyda British Airways am 18 mlynedd.
Mewn teyrnged iddo, dywedodd ei deulu: "Roedd Gary yn ŵr, tad, mab, taid, brawd, brawd-yng-nghyfraith ac ewythr. Rydym ni'n methu credu fod hyn wedi digwydd i ddyn mor anhygoel. Byddai'n gwneud unrhyw beth i unrhyw un - doedd dim ond rhaid gofyn a byddai yno o fewn eiliadau i helpu.
"Roedd wedi dotio ar ei ddwy wyres - Lilly sy'n bump, a Poppy sy'n dair. Mae trydedd wyres ar ei ffordd ym mis Ebrill 2014. Bydd Gary o hyd yn arwr i ni".
Mae'r heddlu yn parhau i chwilio am dystion i'r digwyddiad, pan darodd car Peugeot 406 lliw arian yn erbyn Mr Williams.
Dylai pobl all fod o gymorth i'r ymchwiliad gysylltu gyda'r heddlu ar 101, neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2013
