Ffatri gaws First Milk yn Wrecsam i gau gwanwyn 2014
- Cyhoeddwyd

Bydd 230 o bobl yn colli eu gwaith
Daeth cadarnhad y bydd ffatri gaws First Milk yn Wrecsam yn cau yn ystod gwanwyn y flwyddyn nesa'.
Mae ymgynghoriad gyda staff ac undebau wedi dod i ben ac mae disgwyl i'r safle gau rhwng diwedd mis Mawrth a mis Mai 2014.
Bydd yn golygu fod 230 o bobl yn colli eu gwaith.
Mae First Milk yn dweud eu bod yn dal i gynnal trafodaethau gyda'r cwmni pecynnu caws, Arla, yng Nghroesoswallt ynglŷn â'r posibilrwydd o gyflogi rhai o'r gweithwyr.
Daeth y penderfyniad i gau'r ffatri wedi i First Milk golli cytundeb mawr gydag archfarchnad Asda.
Mae'r cytundeb wedi mynd i Arla, o Ddenmarc.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2013

- Cyhoeddwyd15 Hydref 2013
