Rhybudd i fod yn ofalus am lygredd ar arfordir Penfro
- Cyhoeddwyd

Bu traeth Freshwater East ar gau am gyfnod
Mae cyngor sir yn cynghori pobl i fod yn wyliadwrus o lygredd ar arfordir Sir Benfro.
Eisoes mae'r cyngor wedi cau traeth Freshwater East dros dro ar ôl i sylwedd neu gemegyn gael ei ddarganfod yno dydd Sadwrn.
Mae swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal profion ar y sylwedd.
Erbyn hyn mae arwyddion oedd yn rhybuddio'r cyhoedd wedi eu tynnu lawr gan fod y tywydd garw wedi gwasgaru'r sylwedd.
Pe bai pobl yn gweld unrhyw gemegau anarferol yna dylid cysylltu â gwylwyr y glannau.
Mae'r gwasanaethau brys, Cyngor Penfro, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Cymorth Naturiol Cymru yn gweithio ar y cyd wrth gadw llygad ar yr arfordir.
Dylai unrhyw un sy'n gweld deunydd neu sylwedd anarferol ar y traeth gysylltu â gwylwyr y glannau ar 01646 690909.