Eos yn siomedig gyda dyfarniad
Dywed asiantaeth gerddoriaeth Eos eu bod yn siomedig â phenderfyniad tribiwnlys hawlfraint mai £100,000 flwyddyn ddylai'r BBC ei dalu am yr hawl i ddarlledu cerddoriaeth Gymraeg.
Roedd EOS wedi gobeithio y byddai cerddorion yn derbyn yn nes at £1.5 miliwn.
Adroddiad gohebydd celfyddydau BBC Cymru, Huw Thomas.