Enwau mawr i Ŵyl y Gelli
- Cyhoeddwyd

Bydd y Fonesig Judi Dench, Jennifer Saunders a Stephen Fry yn ymddangos yn yr ŵyl
Mae Gŵyl y Gelli wedi cyhoeddi rhai o'r enwau mawr o fyd adloniant fydd yn ymddangos yn y digwyddiad ym Mhowys yn 2014.
Yn eu plith mae'r Fonesig Judi Dench, Stephen Fry a Jennifer Saunders.
Mae'r ŵyl lenyddol flynyddol yn cael ei chynnal ym mhentre'r Gelli Gandryll ger y ffin â Sir Henffordd - pentref sy'n enwog am ei siopau llyfrau ail law.
Bydd Stephen Fry yn lansio dathliad yr ŵyl o 450 o flynyddoedd ers geni William Shakespeare.
Fe fydd yr ŵyl yn 2014 yn rhedeg o Fai 22 tan Fehefin 1.
Ymhlith yr enwau eraill fydd yn cymryd rhan yn 2014 bydd awdur a enwebwyd am wobr Nobel, Toni Morrison, yr awdur a'r darlledwr Joan Bakewell, Julia Donaldson a sefydlydd yr Huffington Post, Arianna Huffington.