Richard ac Adam i ganu mewn cyngerdd at apêl llifogydd
- Cyhoeddwyd

Mae Richard ac Adam yn adnabyddus ar ôl iddyn nhw ymddangos ar y rhaglen "Britain's Got Talent"
Mi fydd y cantorion opera Richard ac Adam a ddaeth yn enwog wedi iddynt ymddangos ar raglen "Britain's Got Talent" eleni yn canu mewn cyngerdd.
Mi fydd y brodyr a ganodd "Impossible Dream" ar y rhaglen yn perfformio gyda nifer o artistiaid eraill gan gynnwys Katie Benbow oedd ar sioe BBC "The Voice".
Pwrpas y Cyngerdd ydi codi arian ar gyfer y rhai sydd wedi dioddef wedi i lifogydd daro rhannau o'r Rhyl ar ddechrau mis Rhagfyr.
Meddai Adam: "Roedd yn drist iawn i weld be ddigwyddodd ar y newyddion. Ond y straeon personol sydd yn dangos effaith go iawn y trychineb ac fe wnaeth hyn i ni deimlo bod rhai i ni wneud rhywbeth i helpu."
Ychwanegodd Maer Y Rhyl, y Cynghorydd Andy Rutherford :" Dwi'n annog pobl i ddod i'r sioe a phrynu ticedi er mwyn cyfrannu tuag at yr achos."
Mi fydd y cyngerdd yn cael ei gynnal yn Neuadd Tref Y Rhyl ac yn dechrau am 7yh nos Sadwrn.
Mae tocynnau yn costio £10 ac ar gael o Ganolfan Gwybodaeth Twristiaeth Y Rhyl.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2013

- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2013

- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2013
