Tancer nwy mewn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd

Mae pobl wedi eu symud o'u cartrefi wedi i dancer nwy fod mewn gwrthdrawiad fore Gwener.
Dywedodd Heddlu'r De bod y tancer wedi taro pont yn agos at Dŷ Nant Gwyn yn Werfa ger Aberdâr, am 9.20yb.
Dywedon nhw nad oedd anafiadau ond bod pobl wedi eu symud o ddau dŷ cyfagos er mwyn diogelwch.
Mae'r Gwasanaeth Tân yn ceisio trosglwyddo 16,000 litr o nwy o'r tancer sydd wedi ei ddifrodi i gerbyd arall.
Dywedon nhw bod olwynion cefn y lori wedi taro'r bont, gan achosi ychydig o ddifrod.
Yn ol y gwasanaeth bydd criwiau a thîm arbenigol yn parhau i fod ar y safle tan fod y nwy wedi ei drosglwyddo.
Fore Gwener rodd tywydd oer a rhew wedi achosi trafferthion, gyda sawl damwain a rhai ffyrdd ar gau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2013
