Aelodau proffesiynol o gôr Eglwys Gadeiriol yn colli gwaith
- Cyhoeddwyd

Mae grwp o'r enw Save Llandaff Choir eisiau i swyddi'r saith gael eu gwarchod
Mi fydd cytundebau saith o aelodau proffesiynol côr Eglwys Gadeiriol Llandaf yn dod i ben er mwyn arbed arian.
Yn ôl yr Eglwys yng Nghymru mi fydd y newid yn arbed £45,000 ac yn helpu i leihau dyled y Gadeirlan ar gyfer y flwyddyn nesaf, sydd yn rhyw £81,000.
Maen nhw hefyd yn dweud y bydd yna dal modd i'r saith gael eu talu, ond fel rhan o strwythur newydd.
Yn y gorffennol mae'r eglwys wedi cyflogi oedolion (clerciaid lleyg) i ganu yn y côr.
Penderfyniad 'arswydus'
Ond yn y dyfodol dim ond bechgyn fydd yn canu yn ystod yr wythnos. Fe fydd yna gyllid i dalu cantorion eraill yn achlysurol ar gyfer gwasanaethau dydd Sul a digwyddiadau arbennig. Mae'r penderfyniad yn dilyn ymgynghoriad chwe wythnos.
Mae corff sydd yn gwarchod buddiannau cerddorion yn dweud bod y penderfyniad yn un "arswydus".
Dywedodd Deborah Annetts, prif weithredwr yr Incorporated Society of Musicians:
"Mae diswyddo pobl wythnos cyn y Nadolig ac yn ystod cyfnod mwyaf prysur y côr yn mynd i achosi niwed parhaus i enw da Eglwys Gadeiriol Llandaf.
"Rydyn ni yn credu y dylid ail ystyried y penderfyniad yma."
Yn ôl y gymdeithas mi fydd hyn yn gadael y côr heb altos, tenoriaid na baswyr ar gyfer y gwasanaethau noswyl Nadolig ac ar ddiwrnod Nadolig.
35%
Ond yn ôl llefarydd ar ran yr Eglwys Gadeiriol dyma'r ffordd orau i symud ymlaen:
"Ar hyn o bryd mae un rhan o chwech o gyllideb yr eglwys yn mynd at yr adran gerddoriaeth sydd yn fwy na'r gyllideb sydd yn cael ei rhoi ar gyfer costau trydan ac i gynnal a chadw yr adeilad gyda'i gilydd.
"Mae hyn yn bodoli er bod côr yr Eglwys Gadeiriol yn canu mewn llai na 35% o'r holl wasanaethau a dim ond yn ystod tymor ysgol.
"Dros y chwe wythnos diwethaf rydyn ni wedi ystyried yn llawn yr holl gynigion sydd wedi eu rhoi gan y rhai a gaiff eu heffeithio. Ond ein casgliad yw mai'r ffordd newydd o gyllido ar gyfer y côr yw'r ffordd orau a mwyaf cyfrifol i sicrhau dyfodol hir dymor i'r côr."
Dyw Cadeirlannau Bangor a Llanelwy ddim yn cyflogi cantorion, ond maen nhw'n talu cydnabyddiaeth iddyn nhw.
Swm bach
Meddai'r Parchedig Robert Townsend o Gadeirlan Bangor:
"Mae'r Clerciaid Lleyg (tenoriaid a baswyr) yn derbyn cydnabyddiaeth flynyddol. Ond, a dweud y gwir, dydi o ddim yn llawer o gwbl, ac mae'n amherthnasol. Maen nhw'n canu am mai dyna'u diddordeb nhw."
Dywedodd llefarydd ar ran Cadeirlan Llanelwy:
"Mae'n anodd nodi ffigwr benodol, gan eu bod nhw'n derbyn cydnabyddiaeth am bob gwasanaeth y maen nhw'n canu ynddo. Ar gyfartaledd, mae'r Clerciaid Lleyg yn derbyn tua £100 yr un bob tri mis.
"Mae oddeutu 10 Clerc Lleyg yn Llanelwy, sy'n golygu ein bod ni'n gwario tua £4000 y flwyddyn arnyn nhw. Wrth gwrs, gall hyn newid yn dibynnu ar y nifer o wasanaethau ac ati.
"Mae'r plant sy'n canu yn y côr merched a bechgyn yn derbyn 'arian poced' - punt neu ddwy am ganu mewn gwasanaeth."
"O'n safbwynt ni, rydym ni'n credu ein bod ni'n cynnal y traddodiad corawl yn Llanelwy heb fod angen cyflogi cantorion, felly mae e'n bosib."
Mae côr Eglwys Gadeiriol Llandaf wedi ei sefydlu ers rhyw 130 o flynyddoedd a chredir mai dyma un o'r corau olaf yng Nghymru i gyflogi cantorion proffesiynol.