Cau wardiau ysbyty oherwydd bod achosion o norovirus
- Cyhoeddwyd

Dylai pobl sydd fod dod i'r ysbyty ar gyfer apwyntiad ffonio i gael cyngor
Mae tri o wardiau yn Ysbyty Maelor Wrecsam wedi cau am fod yna nifer o bobl yn dioddef o'r afiechyd norovirus.
Ac mae'r ysbyty yn annog pobl i beidio ymweld â chleifion.
Mae 11 o gleifion wedi cael yr afiechyd yn ystod y 48 awr ddiwethaf ac mae mesurau ychwanegol yn bodoli er mwyn ceisio atal y clefyd rhag lledaenu.
Mae'r bwrdd iechyd lleol yn dweud wrth rieni am beidio dod a phlant na babanod i'r wardiau.
Ni ddylai pobl sydd wedi cael dolur rhydd, sydd wedi bod yn cyfogi neu efo stumog boenus yn ystod y diwrnodau diwethaf ddod i'r ysbyty chwaith meddai Betsi Cadwaladr.
Mi ddylai pobl sydd fod dod i'r ysbyty ar gyfer apwyntiad neu i gael triniaeth ac sydd wedi cael symptomau'r salwch ffonio'r ward i gael cyngor.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2013