Maes awyr Caerdydd: disgwyl mwy o deithwyr
- Cyhoeddwyd

Cafodd y maes awyr ei brynu ym mis Mawrth gan Lywodraeth Cymru
Mae maes awyr Caerdydd yn disgwyl mwy na 20,000 o deithwyr i ddefnyddio'r maes awyr dros gyfnod y Nadolig.
Mae hyn medden nhw yn dangos cynnydd o 18% ers y llynedd.
Yn ôl y maes awyr gwasanaethau newydd i leoliadau yn Sbaen ac i lefydd sgio sydd i gyfri am y cynnydd.
Mae'r maes awyr hefyd wedi cyhoeddi y bydd cwmni arall, CityJet yn darparu teithiau i Baris a Glasgow. Flybe oedd yn cynnig y siwrnai yma yn y gorffennol ond mi ddywedon nhw na fydden nhw yn parhau i wneud hyn.
Dywedodd prif weithredwr y maes awyr Jon Horne: "Mae hyn yn newyddion gwych a dw i wrth fy modd bod CityJet wedi ymateb mor gyflym i ddweud y bydden nhw yn cynnig y teithiau hollbwysig yma.
"Rydyn ni yn falch iawn y bydd y cysondeb yn parhau ar gyfer ein gwasanaeth i Glasgow a Paris ar gyfer y degau o filoedd o bobl bob blwyddyn sydd yn gweld y teithiau yma fel rhai allweddol."
Yn y pedwar diwrnod tan y Nadolig mae'r maes awyr yn disgwyl tua 9,000 o deithwyr i hedfan- cynnydd o 24% ers y llynedd.
Mae'r ffigyrau yn hwb i'r maes awyr wedi i'r niferoedd ostwng i lai na un filiwn yn 2012, cwymp o ryw 200,000.
Mwy o deithiau
Mi benderfynodd Llywodraeth Cymru i brynu'r maes awyr ym mis Mawrth ac fe ddywedodd y prif weinidog ar y pryd bod hi'n bwysig cael "porth rhyngwladol, deinamig."
Ym mis Mai dywedodd y cwmni o Sbaen Vueling y bydden nhw yn hedfan o Gaerdydd i Alicante a Malaga ar hyd y flwyddyn ac ym mis Hydref dywedodd Flybe y byddai awyrennau yn hedfan i leoliadau sgio fel Lyon, Chambray a Grenoble.
Yn gynharach yn yr wythnos mi ddaeth comisiwn i'r casgliad na fyddai ehangu'r maes awyr yn helpu i leihau'r pwysau cynyddol ar awyrenau o Lundain.
Roedd grŵp o arbenigwyr trafnidiaeth ac arweinwyr busnes yng Nghymru wedi awgrymu y gallai'r maes awyr gael ei ddefnyddio fel safle ar gyfer hediadau rhyngwladol.
Y syniad oedd trosglwyddo teithwyr rhwng Caerdydd a Llundain ar drenau cyflym iawn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y byddan nhw'n buddsoddi £10m er mwyn gwella cyfleusterau ym Maes Awyr Caerdydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2013

- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2013
