Chwilio am ddyn yn y môr yng Ngwynedd
- Cyhoeddwyd
Mae gwylwyr y glannau a hofrennydd achub RAF wedi bod yn chwilio am ddyn sydd ar goll.
Cafodd gwylwyr y glannau yng Nghaergybi alwad gan yr heddlu yn gofyn iddyn nhw chwilio am y dyn yn ystod oriau man y bore.
Mi fuon nhw yn chwilio ger Pwllheli tan amser cinio. Mi wnaeth hofrenydd RAF Fali a dau gwch achub hefyd helpu.
Mi ddaeth adroddiadau bod y dyn o ardal Pwllheli ar goll nos Wener.
Dyw'r heddlu ddim eto wedi rhoi mwy o wybodaeth am y dyn.