Pro 12: Munster 16-10 Scarlets
- Cyhoeddwyd

Aled Thomas yn cael ei daclo yn ystod y gêm
Munster oedd yn dathlu nos Sadwrn ar ôl i gais hwyr yn ystod amser anafiadau olygu mai nhw oedd y tîm buddugol.
Roedd hi'n gais dadleuol gyda'r Scarlets yn teimlo bod y bêl wedi mynd ymlaen yn y ryc ac fe ofynodd y dyfarnwr am farn y dyfarnwr teledu cyn penderfynu caniatau'r cais.
Cyfartal oedd y sgor ar ddiwedd yr hanner cyntaf ond ar ddechrau'r ail hanner daeth cais i John Barclay. Roedd hi'n 10-3 i dîm y Sosban.
Ond wedi dwy gic gosb gan Hanrahan dim ond pwynt oedd yn gwahaniaethu'r ddau dîm tan y cais munud olaf.
Mae'r fuddugoliaeth i Munster yn golygu bod y Scarlets yn aros yn y seithfed safle yn nhabl y Pro12.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2013

- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2013
