Blwyddyn bwysig i gastell hanesyddol
Fe fydd 2014 yn flwyddyn bwysig iawn i Gastell Aberteifi. Mae disgwyl i ran o'r safle agor dros yr haf wrth i'r gwaith o adfer y castell barhau ar gost o £11miliwn.
Mae gwirfoddolwyr nawr yn dynesu at y targed ariannol o £150,000 sydd yn gorfod cael ei godi yn lleol.
Bu Aled Scourfield yn Aberteifi ar ran y Post Cyntaf i gael golwg ar y prosiect ar drothwy'r flwyddyn fawr i'r castell.