Cynllun: 'mwy o swyddi i bobl ifanc'
- Cyhoeddwyd

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod cynllun creu swyddi i bobl ifanc wedi llwyddo i greu dros 10,000 o gyfleoedd gwaith.
Mae Twf Swyddi Cymru yn golygu chwe mis mewn swydd a thalu o leiaf isafswm cyflog.
Ac mae'r ffigyrau diweddara' o ran y sector breifat yn dangos cynnydd o 3% o fis Tachwedd i Ragfyr, gyda 81% o bobl ifanc yn mynd ymlaen i waith parhaol, addysg neu brentisiaethau.
Ym mis Hydref fe gyhoeddodd y Gweinidog Cyllid Jane Hutt ei bod am roi £12.5m ychwanegol i ymestyn y rhaglen a chreu 4,000 o gyfleuon ychwanegol i bobl ifanc rhwng 16 a 24.
Cyflogaeth
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Ken Skates AC: "Mae cyrraedd creu 10,000 o swyddi yn dangos pa mor dda mae'r cynllun yn gweithio.
"Mae'r gyfran o bobl ifanc sy'n parhau mewn cyflogaeth neu addysg yn codi uwchben 80% er bod targed o 70%."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2013
