Uwchgynghrair Pêl-droed Cymru
- Cyhoeddwyd

Bangor oedd yn dathlu wedi gemau Gwyl San Steffan yn Uwchgynghrair Cymru wrth iddyn nhw gau'r bwlch rhyngddyn nhw a'r brig.
Enillodd y Dinasyddion o 4-2 ar ôl bod dwy gôl ar ei hôl hi yn gynnar yn erbyn Y Bala yn Stadiwm The Book People yn Nantporth.
Ond daeth goliau gan Allen, Davies, Petrie a Miley i sicrhau'r fuddugoliaeth.
Roedden nhw'n dathlu fwy wrth glywed canlyniadau un o'r gemau eraill.
Collodd y Seintiau Newydd yn annisgwyl yn Y Drenewydd, a roedd angen gôl yn y funud olaf ar y tîm oedd yn ail ar ddechrau'r diwrnod - Airbus UK Brychdyn - i ennill oddi cartref yng Nghei Connah.
Cafodd Lido Afan gweir ar daith i wynebu Port Talbot, a chyfartal di-sgôr oedd hi yn y gêm ddarbi arall rhwng Prestatyn a'r Rhyl.
Canlyniadau dydd Iau, Rhagfyr 26 :-
Bangor 4-2 Y Bala
Y Drenewydd 1-0 Y Seintiau Newydd
gap Cei Connah 1-2 Airbus UK Brychdyn
Prestatyn 0-0 Y Rhyl
Port Talbot 5-1 Lidoa Afan