Enwi menyw fu farw mewn gwrthdrawiad ger Amwythig
- Cyhoeddwyd
Bu farw dynes o'r Drenewydd mewn gwrthdrawiad yn agos i dref Amwythig.
Dywedodd heddlu Gorllewin Mercia bod Pricilla Ann Hollis, 62 oed o Faes-y-Dail, Y Drenewydd, wedi marw yn y gwrthdrawiad rhwng tri char am 9:30pm ar nos Lun, Rhagfyr 23.
Roedd Mrs Hollis yn deithiwr yn sedd gefn Ford Focus du a oedd yn teithio tuag at Y Trallwng ar y A458.
Cludwyd dyn yn ei dridegau, gyrrwr Vauxhall Zafira lliw arian a oedd yn teithio tuag at Yr Amwythig, i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol wedi'r gwrthdrawiad.
Mae'r heddlu yn dal i chwilio am Audi A3 du a oedd yn teithio tuag at Yr Amwythig a oedd yn rhan o'r digwyddiad.
Mi fydd crwner Sir Amwythig yn agor cwest i farwolaeth Mrs Hollis ond nid oes dyddiad penodedig wedi ei roi eto a mae ymchwiliad post-mortem wedi ei gynnal ar ei chorff.
Gofynnir i dystion gysylltu â'r heddlu yn Yr Amwythig ar 101.